Llongyfarchiadau
Dwi’n ymwybodol iawn fod ‘na un peth nad ydw i wedi sôn amdano ar y blog hyd yn hyn a hynny yw ffurfio’r cabinet yn dilyn cytundeb clymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Byddai’n dda fod wedi gweld un aelod arall gan Blaid Cymru yn y cabinet, ond dwi’n ofni fod un apwyntiad yn fwy na’r un arall wedi mynd â fy sylw. Dwi’n siŵr nad yw’n syndod pan ddyweda i taw apwyntiad Elin Jones AC fel Gweinidog Materion Gwledig yw hwnnw. Rwy’n hynod o falch drosti hi’n bersonol, ond dwi hefyd yn credu y bydd hi’n llais dilys dros gefn gwlad yn y cabinet. Dwi ddim yn disgwyl i bethau fod yn hawdd; dwi ddim yn disgwyl i ffermwyr fod yn hapus, ond efallai y byddan nhw ychydig bach yn llai blin na’r arfer! Llongyfarchiadau unwaith eto.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Ai baner Cymru sy’n cyhwfan yn Plas yn Dogfael, ynte rhyw ddilledyn ar y lein yn y glaw?!!! Hoffaf feddwl taw symbol o ddathliad yw’r ateb cywir!