Gwyliau

IJzerbedevaart 2007Dwi’n falch o gael dweud fy mod wedi gwneud y rhan fwyaf o’r trefniadau ar gyfer fy ngwyliau. Gwyliau dau ganolfan fydd eleni eto – sef Brwsel (unwaith eto!) a Strasbourg. Y bwriad ar hyn o bryd yw treulio pedair noson yn Strasbourg a chwech noson ym Mrwsel gan ddychwelyd i Aberystwyth erbyn diwedd mis Awst. Mae ‘na un neu ddau o bethau penodol dwi am eu gwneud, ond ar y cyfan jyst hamddena a mwynhau yw’r bwriad. Yr un peth mawr dwi’n gobeithio ei wneud yw mynd i’r IJzerbedevaart 2007 sy’n cael ei gynnal yn flynyddol wrth yr IJzertoren yn Diksmuide, gorllewin Fflandrys. Mae’r IJzerbedevaart yn rali fawr sy’n dod â chenedlaetholwyr Fflemaidd democrataidd at ei gilydd i ddathlu o dan y tri phennawd: Heddwch, Rhyddid a Goddefgarwch. Dwi ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn iawn na chwaith a fydd y peth yn rhywbeth y byddai’n ei werthfawrogi, ond dwi am fynd. Dwi ddim yn siŵr chwaith pa mor hawdd fydd hi i ddod o hyd i ffordd i deithio o Brwsel i Diksmuide ar gyfer y digwyddiad.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>