Dwi newydd wylio rhaglen wych yn y gyfres Wynebau newydd (Telesgôp) ar wefan S4C. Roedd y rhaglen wyliais i yn adordd hanes pedair myfyrwraig o Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, sy’n ymuno â changen Merched y Wawr Casnewydd. Roedd y rhaglen Gwawr Casnewydd yn rhoi cipolwg inni beth ar beth oedd effaith hynny ar Ferched y Wawr a beth oedd effaith Merched y Wawr arnyn nhw. Yr oeddwn i’n edmygu penderfyniad y merched i ddod o hyd i gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg gan taw dim ond yn ysgol yr oedd nifer ohonynt yn medru defnyddio’r iaith o gwbl. Roedd yn ddiddorol iawn i glywed rhieni un o’r merched yn rhyfeddu at ei phenderfyniad i ymuno â mudiad ‘chwyldroadol’ fel Merched y Wawr. Mewn un ffordd fe allwn ni chwerthin, ond wrth edrych ar y peth o bersbectif arall, mae cangen Merched y Wawr Casnewydd siŵr o fod yn un o’r mudiadau mwyaf chwyldroadol yn y ddinas – dyma herio hegemoni diwylliannol Eingl-Americanaidd mewn modd rhyfeddol yng Nghasnewydd o bob man. Crynhowyd agwedd y pedair yn natganiad dagreuol un ohonynt i gyfarfod o’r gangen ar ôl ymweld â Gwlad Pwyl a sylweddoli’r tlodi oedd yno – “Dwi’n gweld nawr beth sy’n bwysig go iawn; cael mynd i’r capel; cael mynd i Merched y Wawr; cael ffrindiau go iawn.” Roedd hi’n ddiddorol hefyd gweld un ohonynt yn sôn am newid yn ei hagwedd hi tuag at yr iaith yn ysgol gan arwain ati hi’n annog plant iau yr ysgol i werthfawrogi’r iaith yn fwy a’i siarad. Dim rhyfedd bod rhywun wedi dweud ar y rhaglen “Mae pobol hŷn yn wych i hango mas gyda.” Mae pobol ifainc Casnewydd yn swnio’n bobol reit ddifyr i hango mas gyda nhw hefyd.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Newydd weld y rhaglen hon heno. Wel! Syndod a llawenydd. Dw’i ddim wedi clywed Cymraeg cystal ag eiddo’r merched ifainc hyn hyd yn oed yn yma yn Aberystwyth. Gwych iawn.