Llythyr oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion

Llythyr oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion 2007-07-09Wythnos diwethaf fe wnes i dderbyn llythyr gan Adran Gyllid Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â thalu Treth y Cyngor. Byddaf yn talu treth Plas-yn-Dogfael trwy ddebyd uniongyrchol. Ond am ryw reswm neu’i gilydd nid oedd taliad Gorffennaf wedi’i dynnu o’r cyfrif. Daeth yr esboniad yn y post. Pam na chasglwyd y taliad? “Camgymeriad technegol.” Digon hawdd gwneud mae’n siŵr. Ond nid yn aml y bydd dyn yn derbyn llythyr oddi wrth gyrwyddwr cyllid yn “taer ymddiheuro” am unrhyw beth. Dwi’n cofio’r drafferth ynglŷn â thalu treth y pen ddechrau’r 1990au. Dim gair o ymddiheuriad bryd hynny am gydweithio gyda’r llywodraeth Thatcheraidd i weithredu treth oedd yn sylfaenol anghyfiawn, ond efallai yr oedd hynny’n disgwyl gormod. Dyma beth oedd gan y llythyr i’w ddweud ‘ta beth.

Annwyl Syr / Fadam,

Parthed: Treth y Cyngor – Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ysgrifennaf i’ch hysbysu oherwydd camgymeriad technegol na fu’n bosib casglu rhandal mis Gorffennaf Treth y Cyngor gennych. Yr oedd yn ddyledus drwy ddebyd uniongyrchol ar 2 Gorffennaf 2007. Felly yr wyf yn bwriadu casglu’r rhandal trwy ddebyd uniongyrchol ar 1 Chwefror 2008. Fodd bynnag, petai’n well gennych pe na bai’r taliad yn cael ei ohirio tan fis Chwefror 2008, gallech chi dalu rhandaliad mis Gorffennaf cyn 22 Gorffennaf a hynny trwy siec, ddebyd neu gerdyn credyd mewn Swyddfa Leol; neu drwy ddebyd/cerdyn credyd ar y ffon – 01970 633252, neu drwy wefan y Cyngor – www.ceredigion.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu pe hoffech drafod y mater, cysylltwch a’r Swyddfa Trethi Lleol yn y cyfeiriad uchod.

Hoffwn daer ymddiheuro am yr anghyfleustra.

Yn gywir
W Gwyn Jones
Cyfarwyddwr Cyllid

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>