Dwi wedi bod yn dymuno mynd i Sycharth ers blynyddoedd. I ddweud y gwir dwi wedi bod yn edrych am Sycharth am flynyddoedd, ond heb ei ganfod. Am ryw reswm dwi wedi methu â dod o hyd i’r hyn sydd ar ôl o blas Owain Glyn Dŵr bob tro yr ydw i wedi bod yn yr ardal. Weithiau dwo wedi gorfod beio’r tywydd am y diffyg hwn – y gwynt a’r glaw a’r niwl – ond yr hyn sydd wedi fy atal y rhan fwyaf o’r amser yw peidio â gwybod beth roeddwn i yn chwilio amdano. Efallai fy mod wedi mynd heibio i’r fan o’r blaen, ond heb adnabod yr ychydig olion a welais fel Sycharth. Fel Abaty Ystrad Marchell ychydig sydd ar ôl i ddangos i ni’r cyfoeth oedd yno yn amser Owain. Mae disgrifiad Iolo Goch o Sycharth yn ei gywydd i Lys Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, Llansilin, wedi dod yn gymaint rhan o’n cof cyffredin fel mae’n anodd credu nad yw’r lle yn dal i fod yn sefyll fel y mae’n cael ei ddisgrifio yno o hyd. Wrth gwrs mae’r haneswyr yn medru dweud yn syth nad oes dim olion go iawn yn mynd i fod ar ôl gan i’r tŷ gael ei ddinistrio fel rhan o’r brwydro yn 1403. Y cyfan sydd i’w weld yno bellach yw tomen o bridd ac mae’n rhaid cael llygad arbenigwr i ‘weld’ y lle yn ei ogoniant, neu glust o leiaf i wrando ar gywydd Iolo.
Yn ôl yr Athro Dafydd Johnston yn ei olygiad o waith Iolo Goch ysgrifennwyd y gerdd tua diwedd y 1380au neu o bosib ar ddechrau’r 1390au. Dyma ddetholiad ohoni a ddyfynnir gan y Dr Enid Roberts yn ei chyfrol fechan wych Tai uchelwyr y beirdd 1350-1650 (1986):
Llys Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, Llansilin (ychydig cyn 1400)
Llyna y modd a’r llun y mae:
Mewn eurgylch dwfr mewn argae.
Pand da’r llys, pont ar y llyn,
Ac unporth lle’r âi ganpyn?
Cyplau sydd, gwaith cwplws ŷnt,
Cwpledig bob cwpl ydynt.
Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Cloystr Wesmestr, cloau ystwyth.
Cenglynrhwym bob congl unrhyw,
Cafell aur, cyfa oll yw.
Cenglynion yn y fron fry
Dordor megis daeardy,
A phob un fal llun llyngwlm
Sydd yn ei gilydd yn gwlm.
Tai nawplad fold deunawplas,
Tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
Mae’i lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adeilgraff,
A’r pedair llofft, o hoffter,
Yn gydgwplws lle cwsg clêr.
Aeth y pedair disgleirlofft,
Nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft.
To teils ar bob tŷ talwg,
A simnai ni fagai fwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun
A naw wardrob ar bob un.
Siopau glân, glwys gynnwys gain,
Siop lawndeg fal Siêp Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw.
Yn yr un gyfrol y mae’r Dr Roberts yn cynnig sylwadau ar y disgrifiad o lys Owain gan Iolo Goch ac mae llun dychmygol gan Douglas B Hague o sut olwg a allai fod ar y llys yn seiliedig ar ei ddisgrifiad.
Y tebyg yw mai tŷ i ymweld ag ef dros dro oedd Sycharth, tŷ a godwyd yn fwriadol i arddangos cyfoeth a statws, gan efelychu’r ysblander a welsai Owain Glyn Dŵr yn llysoedd aristocratiaid Lloegr y bu’n troi yn eu mysg. Yr oedd y domen-gastell a’r ffos o’i chwmpas, y bryn glas mewn eurgylch dwfr, yno eisoes. Ar ben y domen, ar sylfaen o gerrig, gosodwyd ffrâm hirsgwar o goed anferth wedi eu morteisio i’w gilydd, gyda phost neu biler cadarn ymhob cornel. Wrth godi tŷ o’r fath, rhwng y pedwar piler gosodid nifer o byst llai, y cyfan yn ymestyn i uchder y mur; yna ar byst y ddwy ochr hir gosodid pren walblad (wall-plate), i gynnal a rhannu pwysau coed y to, a morteisio’r cyfan i’w gilydd. Ar y ddau bren walblad gosodid ffrâm y to: parau o goed cryf a’r traed wedi eu pegio’n dynn i’r walblad a’u pennau uchaf wedi eu haneru a’u pegio i’w gilydd yn y brig — dyna’r ‘cwplws’ neu’r ‘cyplau’. Yr oedd pob congl yn ‘genglynrhwym’, wedi eu rhwymo ynghyd, mor gadarn â phe bai’n garchar tanddaearol.
Math o lechi tew, trwm oedd y ‘teils’ oedd yn ei doi, a rhaid wrth do serth i’w cynnal. Ni wyddys sawl uned oedd yn Sycharth; oddi wrth y gweddillion a welwyd wrth gloddio ymddengys mai’r un oedd lled y cyfan, ond gallwn fod yn bur sicr fod yno o leiaf un darn wedi ei doi ar wahân fel darn croes, mai dyna a roes y syniad i’r bardd am ‘groes eglwys’ — y neuadd fel corff eglwys a’r darn croes fel dwy fraich fer i dde ac aswy. Rhwng y domen ac uchder y to cribog yr oedd yr adeilad yn ymddangos yn uchel iawn, a’i wneuthuriad yn teilyngu ei gymharu a’r adeiladau pwysicaf, enwocaf y gwyddai’r bardd amdanynt — clochdy newydd Eglwys Gadeiriol S Padrig yn Nulyn, cant a hanner o droedfeddi o uchder, a Chloystr Abaty Westminster, y naill yn waith Ffrancwr a’r llall yn amlwg dan ddylanwad eglwysi Rheims ac Amiens.
Yn ôl Cyfraith Hywel Dda yr oedd rhaid i’r bileiniaid adeiladu ‘naw tŷ’ i’r brenin. Yn ôl un fersiwn y ‘naw ty’ fyddai neuadd, ystafell, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, naill ai cynordy (adeilad bychan o flaen y porth) neu cyfordy (tŷ lle cedwid cwrw — y mae’r darlleniad yn ansicr), a ‘thŷ bach’. Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg llwyddwyd i gynnwys, nid y naw arbennig hyn efallai, ond pob ystafell angenrheidiol (a chymryd ‘naw’ fel rhif perffaith) i gyd mewn un adeilad…
Ystyr ‘wardrob’ yn y cyfnod hwn oedd ystordy pwysig lle cedwid, yn ogystal â dillad, bob math o ddefnyddiau a nwyddau, llestri aur ac arian a phiwter a phren, bwydydd moethus megis sbeis, cwrlidau o bob math, tyweli, llenni wedi eu haddurno â brodwaith, tapestriau, clustogau a charpedi; nid rhyfedd fod y cyfan yn atgoffa’r bardd am farsiandïaeth siopau Siêb yn Llundain. Ceinder a thrysor a olygir wrth sôn am gapelau hefyd, efallai. Llecyn gydag allor lle gellid gweinyddu’r offeren oedd ystyr wreiddiol y gair ‘capel’; ceid amryw mewn eglwysi, a phob un yn adlewyrchu cyfoeth a harddwch, ac os oedd yno ffenestr byddai gwydr lliw ynddi. Yn yr Oesoedd Canol yr un patrwm oedd i ffenestri neuadd ag i ffenestri eglwys. Ddwy ganrif yn ddiweddarach yr oedd gwydr yn brin; os oedd gwydr lliw yn Sycharth byddai’n rhywbeth i ryfeddu ato ac i ddotio arno.
Ym 1403 llosgwyd Sycharth i’r llawr, gan y Tywysog Harri o Fynwy a’i filwyr; nid oes ond y domen a’r ffos yn aros i ddangos lle bu; oni bai am gywydd Iolo Goch ni fyddai gennym syniad o gwbl am y gogoniant a fu yno gynt. Faint mwy o lysoedd cyffelyb a gollwyd, tybed?
Fodd bynnag, cadwyd cof amdano ymhlith y beirdd a’u noddwyr. “Os uchel oedd dŷ Sycharth, / A’i fryn gynt yn nwyfron garth”, yr oedd tŷ newydd Edward ap Hywel ab Ieuan Llwyd, Y Faenor, Aberriw, yn uwch, yn ôl Guto’r Glyn. Gormodiaith amlwg, mae’n wir, ond prawf mai Sycharth oedd y llathen fesur.
Ni aeth DJP a minnau i fyny at y ‘castell’ ei hun ond yn hytrach sefyll ar lwybr cyferbyn â’r olion. Yn yr haul gyda’r awyr las yn gefndir yr oedd yn olygfa wych. Dwi’n ofni fy mod i wedi fy hudo gan y lle i’r fath raddau fel yr oedd yn rhaid imi roi saliwt gwlatgar 1970aidd iawn cyn ymadael; a diolch i sgiliau ffotograffig DJP mae’r saliwt hwnnw ar gof a chadw i fod yn achos embaras imi. Ond doeddwn i ddim yn medru atal fy hun rhag gwneud sy’n rywfaint o brawf fy mod heb barchuso’n llwyr wrth fynd yn hŷn.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Post eitha diddorol Dogfael. Diolch!
Hanes diddorol iawn Dogfael. Yn hoff o’r saliwt hefyd !