Wedi Arddlîn dyma droi’n ôl i’r A483 a chroesi’r ffin i mewn i Loegr. Wrth gwrs yr unig gliw eich bod chi wedi gadael Cymru yw’r arwydd “Welcome to Shropshire” sy’n sefyll ar ochr y ffordd wedi ichi adael Llanymynech a chyn cyrraedd pentref Pant. Mae’r enwau llefydd yn aros yn bendant Gymraeg. Ein bwriad oedd bwrw am bentref bychan Llanyblodwel ar lan Afon Tanat, yn agos iawn i’r ffin â Chymru, ond yn Lloegr. Y rheswm yr es i â DJP yma oedd i weld yr eglwys. Roeddwn i wedi bod yma gydag RO rhyw bedair blynedd yn ôl yn ystod haf tanbaid 2003 adeg eisteddfod Meifod. Mae Eglwys S Mihangel, Llanyblodwel yn adeilad rhyfeddol. Yn 1844 daeth y Parchg John Parker yn ficer yma a dechrau newid adeilad yr eglwys yn ôl ei syniadau echreiddig ei hun. Yn 1854 fe etifeddodd stad ei dad ac fe roes hynny y modd iddo drawsnewid y lle. Yr oedd wedi dechrau ar ei hobi yn Llanmyrewig ond yma yn Llanyblodwel fe gafodd rhwydd hynt. Cododd dŵr enfawr sydd i’w weld o bell, ond i mi yr hyn a wnaeth y tu fewn i’r eglwys sydd fwyaf trawiadol. Ar hyd y muriau a’r nenfwd a phob man arall posib fe addurnodd ac fe osododd adnodau o’r Ysgrythurau. Yn ôl un disgrifiad yr oedd yn ddisgybl i’r Gothig ond nid i Dractyddiaeth. Yr hyn a wnaeth i mi wenu wrth gerdded mewn i’r eglwys oedd ceisio dychmygu beth oedd ymateb y plwyfolion i’r hyn yr oedd wedi gwneud i’w ‘heglwys hwy’. Dwi’n siŵr fod nifer go dda yn gegrwth. Ond mae’n rhaid ei fod yn ddyn digon cymeradwy ac felly wedi’i oddef mewn cariad. Mae’n werth dod i weld yr adeilad; roedd gan John Parker weledigaeth bendant iawn a’r ewyllys i gyflawni’r weledigaeth honno. Ysbrydolwyd y nenfwd gan Eglwys Gadeiriol Tyddewi ond fe ddefnyddio addurniad tebyg i Abaty Westminster. Yn raddol tyfodd yr holl beth yn ddathliad o weledigaeth a gallu un dyn i dalu am y weledigaeth honno, Wedi’i farw fe’i claddwyd ym mynwent Llanyblodwel yn agos at ei greadigaeth wych.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael