Tro i ogledd Powys a’r gororau 1

Croeso i Arddlîn, PowysRoedd dydd Sadwrn yr un mor gyffrous â nos Wener. Doeddwn i ddim wedi disgwyl hynny, ond fel ‘na digwyddodd hi. Roedd DJP wedi rhyw hanner sôn ei fod am alw i weld perthnasau iddo yn Arddlîn, ger y Trallwng ac fe gynigodd cyfle imi ddod gydag e am y daith. Mae mynd i ardal y Trallwng a gogledd Powys wastad yn antur a doedd dydd Sadwrn ddim yn eithriad. Doedd DJP ddim wedi dweud ei fod yn dod wrth ei berthnasau ac wrth inni adael Aberystwyth gyda’r haul yn disgleirio roedd yn amau efallai y buasent hwy fel ninnau yn manteisio ar y tywydd braf i fynd am dro eu hunain.

Tai newydd, Arddlîn, PowysPrin yw’r teithwyr sy’n mynd trwy Arddlîn bellach gan fod y ffordd fawr yn osgoi’r pentref ei hun. Ond mae’r ardal yn un ag iddi hanes diddorol. Nid nepell o Arddlîn yr arferai abaty Ystrad Marchell sefyll ac mae’r pentref yn gorwedd ar lan camlas y Shropshire Union. Mae’r gamlas yn dal i fod yno, ond mae’r abaty wedi hen ddiflannu. Sefydlwyd yr abaty yn 1170 gan Owain Cyfeiliog pan ddaeth mynachod o Hendy-gwyn i fyw yno a bu llewyrch ar y lle tan iddo gael ei ddifrodi yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Ni welodd lewyrch wedyn ac ychydig dros ganrif yn ddiweddarach fe’i diddymwyd fel gweddill mynachdai Cymru yn 1536. Bellach does dim olion o gwbl i’w gweld yno i nodi’r fan lle safai’r abaty ond mae ‘na fferm gerllaw yn dal i ddwyn yr enw Maes yr Abad. Fe fydd y lle byw am byth hefyd yn llinell agoriadol ryfeddol Guto’r Glyn yn ei farwnad i Lywelyn ap y Moel “Mae arch yn Ystrad Marchell / ym mynwent cwfent a’u cell…”

Cinio 2007-07-14Fel pob pentref mae Arddlîn yn ddioddef oddi wrth ystadau tai modern hyll, er bod ymgais i geisio eu gwneud fel tai ‘du a gwyn’ traddodiadol yr ardal. Wrth inni fynd o gwmpas y pentref fe welsom ni beth oedd wedi digwydd i Arddlîn, ac roedd DJP yn iawn i gredu fod ei berthnasau wedi cael eu temtio i fynd am dro. Felly doedd dim byd i’w wneud ond llenwi gweddill ein diwrnod gyda thaith o gwmpas gogledd Powys a’r gororau. Fe gychwynnon ni yn Arddlîn gyda chinio yn nhafarn yr Horseshoe Inn. Roedd y bwyd yn iawn, ond pan ddaeth hi’n amser talu doedden nhw ddim yn derbyn cardiau plastig, er bod arwyddion dros y lle i gyd yn cyhoeddi eu bod nhw yn gwneud hynny. Llwyddais i grafu digon o arian parod at ei gilydd i dalu am fy mhryd. A bant â ni ar ein taith.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>