Bedydd a chonffyrmasiwn

Yr esgob a'r ymgeiswyr o Eglwys y Santes FairMae ‘na un hanes dwi wedi bod yn disgwyl am wythnosau i’w adrodd ar Flog Dogfael, sef hanes y gwasanaethau bedydd a chonffyrmasiwn a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair yn ddiweddar – ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf. Nid ydym yn cael gwasanaethau bedydd yn aml iawn, ond roedd cael pump o bobol yn cael eu bedyddio yr un pryd yn hynod iawn. Oherwydd fod pedwar ohonyn nhw wedi gofyn am gael bedydd trochiad, yn hytrach na thaenelliad, roedd yn rhaid inni gynnal y gwasanaeth yn adeilad Eglwys S Mihangel yn y plwyf sydd â bedyddfa addas ar gyfer y gwaith. Fel rhywun a fagwyd o fewn i’r traddodiad Bedyddiedig mae bedydd i mi yn cael ei gysylltu gyda phenderfyniad unigolyn i fod yn ddisgybl i Iesu a’r dymuniad i’w ddilyn yn gryf iawn. Mae llawer mwy i sacrament bedydd sanctaidd na hynny, ond mae hynny’n cael ei weld yn eglur iawn mewn bedydd trochiad oherwydd ei fod yn arwydd mor gref o’r newid bywyd mae hynny’n ei olygu.

Y pump a gafodd eu bedyddio gyda'r Parchg Ganon Stuart  Bell a Gwenda WallaceDaeth nifer dda ynghyd i’r gwasanaeth yn Eglwys S Mihangel a arweiniwyd gan y Parchg Ganon Stuart Bell gyda chymorth y ficer, y Parchg Andy John. Roedd Andy a Sara, ei wraig, i fod fynd ar eu gwyliau y diwrnod cynt, ond roedd y ddau yn eiddgar iawn i aros am y gwasanaeth oherwydd ei fod yn ddigwyddiad mor hynod yn hanes yr eglwys. Yn ogystal ag aelodau cynulleidfa arferol Eglwys y Santes Fair yr oedd nifer o deuluoedd y rhai oedd yn cael eu bedyddio yn bresennol gan ychwanegu at yr awyrgylch o lawenydd a dathlu oedd yn nodweddu’r gwasanaeth. Er ein bod yn dilyn litwrgi neu ffurf-wasanaeth arferol yr Eglwys yng Nghymru nid oedd dim byd ffurfiol am y gwasanaeth. Llwyddodd Stuart Bell i gynnal yr awyrgylch hyfryd hwnnw trwy’r gwasanaeth. Canolbwynt y gwasanaeth yw’r adeg pan fydd yr ymgeiswyr am fedydd yn gwneud eu haddewidion i ddilyn Iesu gyda’r gynulleidfa yn dystion i hynny. Wrth eu gwylio hwy yn gwneud hynny mae’n bosib i’r rhai sy’n ‘gwylio’ ddefnyddio’r achlysur i adnewyddu eu haddewidion hwy. Fel y dywedais roedd pump yn cael eu bedyddio. Roedd pedwar ohonynt yn aelodau o Ysgol Sul Eglwys y Santes Fair, ond yr oedd eu rhieni heb eu cyflwyno i’w bedyddio yn fuan ar ôl eu geni ond yn hytrach roedd yn well ganddynt adael i’r plant ddewis a oeddent am gael eu bedyddio a’u conffyrmio yn nes ymlaen. Roedd y pumed ymgeisydd yn fyfyriwr o Loegr yn y Brifysgol yn Aberystwyth sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ac wedi dod yn rhan o deulu Eglwys y Santes Fair.

Calvin gyda'i deuluRoedd bod yn dyst i’r bedydd yn brofiad rhyfedd imi gan ei bod hi’n flynyddoedd ers imi weld bedydd yn cael ei weinyddu trwy drochiad. Pan yn blentyn dyna’r unig fedydd yr oeddwn i erioed wedi’i weld ym Methel, Mynachlog-ddu. Ond dros y pymtheng mlynedd a mwy ers imi droi’r Eglwyswr prin dwi wedi weld. Cafodd ffrind i mi, sydd bellach yn weinidog gyda’r Annibynwyr ei bedyddio ddechrau’r 1990au, ei bedyddio trwy drochiad a dwi’n credu taw dyna’r tro diwethaf imi ei weld. Ym Mynachlog-ddu roedd aelodau newydd eglwys Bethel yn cael eu bedyddio fel arfer ym mis Mehefin neu Orffennaf. Erbyn fy amser er bod ymgeiswyr yn cael eu bedyddio yn nŵr yr afon, Afon Cleddau Ddu, ond roedd hwnnw bellach yn cael ei ddargyfeirio i bwll arbennig ar gyfer y gwaith. Roedd bedydd yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys gyda thorf fawr yn ymgasglu o gwmpas y pwll ar lan afon Cleddau. Dwi ddim ei chofio hi’n bwrw ar ddiwrnod bedydd, hytrach yr hyn dwi’n ei gofio yw’r haul yn ceisio disgleirio trwy’r to o goed oedd wedi tyfu dros y fedyddfa a phatrwm o gysgod a goleuni yn neidio o gwmpas y dorf wrth i’r awel symud brigau’r coed. Cefais i fy medyddio yno yn 1976 cyn imi fod yn un ar bymtheg mlwydd oed. Roedd yn gam pwysig iawn yn fy natblygiad ysbrydol.

Hanna gyda'i theuluNid dim ond aelodau o gapel Bedyddwyr Bethel fyddai’n dod i weld y bedydd, ond aelodau o gapeli ac eglwysi’r ardal. Ar ddiwedd y ddefod byddai’r gweinidog wastad yn cynnig gweinyddu’r bedydd i rywun oedd wedi’i argyhoeddi yn ystod y seremoni. Er nad ydw i’n cofio i neb ddod ymlaen yr oedd yn gyfle i lawer o dynnu coes ac annog Annibynwyr, yn bennaf, i gael eu bedyddio ‘go iawn’. Er fy mod bellach yn gwerthfawrogi’r arfer o fedyddio babanod a phlant, a hynny trwy daenelliad, mae’n rhaid imi gyfaddef fod bod yn dyst i fedydd trochiad y rhai sy’n medru ateb drostynt eu hunain yn dipyn o brofiad. Yn y gwasanaeth yn Eglwys S Mihangel yr oedd pob un o’r ymgeiswyr wedi paratoi gair o esboniad pam eu bod hwy wedi dewis cael eu bedyddio. Roedd eu datganiadau syml a didwyll yn werth eu clywed ac fe es i yn ôl ddeng mlynedd ar hugain a mwy i fy medydd i ym Mynachlog-ddu yn nŵr afon Cleddau.

Yr esgob a'r ymgeiswyrWythnos yn ddiweddarach yr oedd yr Esgob Carl Cooper, Esgob Tyddewi, yn ôl ym mhlwyf Aberystwyth ac yn Eglwys y Santes Fair er mwyn llywyddu yng ngwasanaeth conffyrmasiwn yn y plwyf. Roedd rhyw ddeuddeg o bobol yn cael eu conffyrmio gan yr esgob ac yn eu plith rhai o’r rheiny a fedyddiwyd wythnos yn gynt – ond nid pawb – a rhai oedd wedi’u bedyddio flynyddoedd yn gynt ond a oedd am feddiannu’r addewidion a wnaed drostynt bryd hynny fel pethau oedd yn bwysig iddynt hwy yn bersonol bellach, a rhai oedd am ddilyn y llwybr o gael eu derbyn i’r Eglwys yng Nghymru o eglwysi nad oes ganddynt esgobion. Fel arfer bydd yn rhaid i ymgeiswyr am gonffyrmasiwn ateb cwestiynau tebyg iawn i’r rhai a wneir wrth dderbyn bedydd:

A ydych yn troi at Grist?
Yr wyf yn troi at Grist

A ydych yn edifarhau am eich pechodau?
Yr wyf yn edifarhau am fy mhechodau

A ydych yn ymwrthod â’r drwg?
Yr wyf yn ymwrthod â’r drwg

A ydych yn credu yn Nuw Dad, Creawdwr pob peth?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Dad

A ydych yn credu yn ei Fab Iesu Grist, Gwaredwr y byd?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Fab

A ydych yn credu yn yr Ysbryd Glân, Rhoddwr bywyd?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw’r Ysbryd Glân

Wedi ateb y cwestiynau hynny bydd yr esgob yn arddodi dwylo ar bob ymgeisydd gan weddïo trostynt yn unigol.

Cyfnertha, Arglwydd, dy was/wasanaeth-ferch â’th ras nefol, ac eneinia ef/hi â’th Ysbryd Glân; galluoga ef/hi at dy wasanaeth a’i g/chadw yn y bywyd tragwyddol. Amen.

Roedd cynulleidfa fawr yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer y gwasanaeth ac roedd yr ysbryd o ddathlu llawen yn parhau.

Rhagor o luniau o’r gwasanaeth bedydd a’r gwasanaeth conffyrmasiwn.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>