Syniad mawr Gordon Brown?

Baner yr undebDes i ar draws un fenter ddiddorol yng nghanol y llif o syniadau sydd wedi dod oddi wrth Gordon Brown a’i lywodraeth newydd dros y dyddiau diwethaf. Ymhlith y cynigion ar gyfer newid cyfansoddiadol mae adran ar newid y rheoliadau (ynteu’r ddeddf) er mwyn caniatau i faner yr undeb gael ei hedfan yn fwy aml oddi ar adeiladau’r llywodraeth. Mae’r holl jamborî Prydeinig hyn yn ddiddorol iawn. Yn swyddogol mae’n cael ei ddweud ei fod yn cael ei anelu at newydd ddyfodiaid i’r Deyrnas Gyfunol, ond mae’n gyfleus iawn fod gan hyn i gyd sgil effeithiau sy’n llwyddo i dreiddio i ymwybyddiaeth pawb arall.

Dyma beth sy’n cael ei ddweud am faner yr undeb yn y ddogfen ymgynghorol The governance of Britain a gyhoeddwyd gan Lywodraeth San Steffan yr wythnos hon.

Flying the Union Flag and other national flags

Symbols can help to embody a national culture and citizenship. The Union Flag is one of the most recognisable symbols of the UK. But while in other countries, such as France and the United States, the national flag is regarded as source of pride, in recent years the Union Flag has all too often become the preserve of political extremists, a symbol of discord rather than harmony. It is critical that this symbol is not hijacked by those who seek to work against the fundamental British values of tolerance and mutual respect.

While there are a number of reasons why the Union Flag may not be as widely flown in the UK as other national flags are abroad, regulations on the use of the flag may be playing some role. The Government has already removed many of the previous restrictions on flag flying by private citizens. But at present there are only 18 fixed days each year on which the Union Flag may be flown on Government buildings in England. These restrictions are clearly tighter than those used in many other countries.

The Government will therefore consult on altering the current guidance that prohibits the flying of the Union Flag from Government buildings for more than 18 set days in the year.

There are particular sensitivities in Northern Ireland. The flying of flags there is governed by the Flags Regulations (Northern Ireland) 2000. The Government believes that this is the most appropriate way to deal with the matter.

Ar ôl gwneud ychydig ymchwil dwi’n deall taw dim ond ar 16 achlysur y bydd baner yr undeb yn hedfan o adeiladau’r llwyodraeth yng Nghymru. Ac er gwybodaeth dyma’r rhestr ar gyfer 2007.

Hedfan baner yr undeb yng Nghymru 2007

Dyddiad Pam
20 Ionawr Pen blwydd Iarlles Wessex
6 Chwefror Esgyniad ei Mawrhydi
19 Chwefror Pen blwydd Dug Efrog
1 Mawrth Dydd Gŵyl Dewi
10 Mawrth Pen blwydd Iarll Wessex
12 Mawrth Dydd y Gymanwlad (ail ddydd Llun mis Mawrth)
21 Ebrill Pen blwydd ei Mawrhydi
9 Mai Dydd Ewrop
2 Mehefin Dydd y coroniad
10 Mehefin Pen blwydd Dug Caeredin
16 Mehefin Pen blwydd swyddogol ei Mawrhydi
17 Gorffennaf Pen blwydd Duges Cernyw
15 Awst Pen blwydd y Dywysoges Frenhinol
11 Tachwedd Dydd y Cofio
14 Tachwedd Pen blwydd Tywysog Cymru
20 Tachwedd Pen blwydd priodas ei Mawrhydi

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

3 sylw ar Syniad mawr Gordon Brown?

  • Mae brydfrydedd Brown dros Prydeindod yn seilio ar ei Albanrwydd. Mae hybu “Prydeindod” iddo ynteu’n arwain meddyliau Seisnig oddi ar y gwestiyn Mid Lothian.

    Mae Pamphled “Fabian” ganddo ar Brydeindod sy’n eithaf diddorol, ond mae canolbwyntio ar “rhannu’r un iaith” mewn un pennod yn anesmwytho Cymro i ddweud y leiaf!!

    Gyda llaw, mwynheuais cwis y radd allanol nos Sadwrn yn fawr iawn, er fy mod i’n credu o hydd na ddylai neb cael pwynt am Allan Johnstone heb y “t”
    ;-)

  • Diddorol clywed mai mond 16 diwrnod yn unig dylai ffedog y cigydd gael ei chwifio yng Nghymru. Ydi adeiladau/polion baneri awdurdodau lleol yn cael eu hystyried fel adeiladau llywodraeth? Hefyd beth am sefydlliadau fel yr Amgueddfa Genedalethol (a’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd)? Dwi’n siwr bod y rhain yn chwifio’r fedog 365 y flwyddyn.

  • Un diwrnod ar bymtheg yn ormod weden inna!!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>