Henffych Ieuan!

Ieuan Wyn Jones ACDoes dim yn rhyfeddach na bywyd go iawn. Gallwch chi ddychmygu beth all ddigwydd ond wnewch chi byth llwyddo i ragweld popeth sy’n digwydd. Pedair blynedd yn ôl fe ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones fel arweinydd Plaid Cymru; dros y penwythnos fe bleidleisiodd ei blaid dros fynd i lywodraeth glymblaid gyda Llafur oedd yn cadarnhau ei safle fel dirprwy brif weinidog yn hytrach na’r prif weinidog y gallai fod wedi bod o ddewis clymblaid yr enfys. Ond heno, gyda Rhodri Morgan druan yn sâl, dyma ni ar drothwy cyfnod pan fydd Ieuan Wyn Jones yn rhedeg Cymru gyda bendith y frenhines! Ond yw bywyd yn rhyfedd. Does dim angen mynd yn ôl yn bell iawn pan roedd tipyn o anniddigrwydd ymhlith aelodau ei blaid ei hun gyda’i berfformiad yn y Cynulliad Cenedlaethol a nawr fe lwyddodd i sicrhau pleidlais o 92% o blaid clymblaid a allai fod wedi bod yn amhoblogaidd iawn petai heb wneud a dweud y pethau iawn. Llongyfarchiadau!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>