Brysia wella, Rhodri

Rhodri MorganDwi ddim am i hyn swnio fel rhyw fath o erthygl goffa i Rhodri Morgan, ond dwi’n teimlo y dylwn i wneud ychydig sylwadau ac yntau yn rhoi’r gorau am ychydig i fod yn brif weinidog gweithredol oherwydd ei lawdriniaeth. Mae’r dyn yn ennyn teimladau cymysg ynof fi, cymysgedd o barch a siom. Yn gyntaf mae’n rhaid ddweud imi edmygu’r modd y bu’n barod i dorri ei gŵys ei hun wedi marwolaeth John Smith a phan etholwyd Tony Blair yn arweinydd Llafur Newydd. Roedd yn barod i’w herio a phan ddaeth ei gyfle yn ystod cyfnod byrhoedlog Alun Michael fel prif weinidog, neu’n hytrach prif ysgrifennydd, ni dynnodd yn ôl gan sicrhau y fuddugoliaeth yr oedd yn ei haeddu. A chwedyn dechreuodd pethau i fynd o chwith yn fy marn i. Credaf ei fod wedi penderfynu nad oedd am danseilio undod y blaid Lafur ac felly dyma fynd ati i ddilyn polisïau saff a diogel nad oeddent yn mynd i herio awdurdod Blair fel y cyfryw. Yn anffodus, yn fy marn i, fe arweiniodd hyn at lywodraeth ddi-ddychymyg a di-weledigaeth. Yr oedd Rhodri Morgan yn ceisio mor galed i beidio â thramgwyddo Llafur Llundain fel nad oedd yn mentro dweud dim allan o’r cyffredin a’r di-liw. Yr oeddwn i wedi disgwyl rhywbeth gwahanol iawn. Dwi’n cofio mynd i gynhadledd flynyddol TUC Cymru ychydig ar ôl iddo gael ei wneud yn brif weinidog a disgwyl araith ddisglair nad oeddwn yn disgwyl cytuno â hi yn llwyr, ond araith ddiflas a gafwyd mewn gwirionedd. Yn yr un modd fe ddaeth i Aberystwyth i draddodi darlith flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Roedd hyn yn gyfle gwych iddo osod allan ei weledigaeth yntau ar gyfer Cymru a’i llywodraeth; ond rhywbeth di-ddim heb ddim cyffro a gafwyd ganddo.

Dwi ddim am swnio’n grintachlyd o gofio fod Rhodri Morgan yn dal i fod yn yr ysbyty, ac felly fe wna i adrodd un hanes sy’n dangos ei fod yn berson dynol. Roedd cyfaill imi, DML (sy’n enwog fel ymgyrchydd iaith) yn feirniad Llyfr y flwyddyn 2003 pan roedd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Ngŵyl y Gelli, the Hay Festival. DML oedd yn traddodi’r feirniadaeth a Rhodri Morgan yn cyflwyno’r wobr. Yr enillydd y flwyddyn honno oedd Angharad Price gyda’i chyfrol O tyn y gorchudd, ond am ryw reswm roedd trefnwyr y seremoni wedi rhoi darn o bapur i Rhodri Morgan gydag enw Angharad Tomos arno. Roedd Rhodri yn ddigon o ddyn i gyfaddef nad oedd yn gwybod pwy oedd wedi ennill, ond roedd yn weddol sicr nad oedd yn gweld Angharad Tomos yno, ac felly dyma droi at DML a gofyn iddo yntau am help. Ac yn rasol iawn fe ddywedodd DML wrth Rhodri Morgan pwy oedd pwy gan ei arbed rhag embaras. Os oedd Rhodri Morgan yn medru cydweithio fel ‘na gyda un o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg pan roedd yn rhaid iddo, mae’n argoeli’n dda ar gyfer llywodraeth clymblaid Llafur-Plaid Cymru! Fel brysia wella Rhodri er mwyn dechrau cydweithio gydag Ieuan Wyn Jones ar newid Cymru er gwell.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Brysia wella, Rhodri

  • Diolch am yr hanes hyfryd ‘na am DML a Rhodri Morgan. Cyd-weithio sy’n well o lawer na chyd-gegru. Er yn wlad fach ryn ni’ wlad fawr o ran safbwyntiau gwahanol, ac i bob un ei farn gweda i, ond wrth drafod fel cyfeillion fe gewn y gorau i Gymru gobeithio!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>