Brysia wella, Rhodri

Dwi ddim am i hyn swnio fel rhyw fath o erthygl goffa i Rhodri Morgan, ond dwi’n teimlo y dylwn i wneud ychydig sylwadau ac yntau yn rhoi’r gorau am ychydig i fod yn brif weinidog gweithredol oherwydd ei lawdriniaeth. Mae’r dyn yn ennyn teimladau cymysg ynof fi, cymysgedd o barch a siom. Yn gyntaf [...]

Henffych Ieuan!

Does dim yn rhyfeddach na bywyd go iawn. Gallwch chi ddychmygu beth all ddigwydd ond wnewch chi byth llwyddo i ragweld popeth sy’n digwydd. Pedair blynedd yn ôl fe ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones fel arweinydd Plaid Cymru; dros y penwythnos fe bleidleisiodd ei blaid dros fynd i lywodraeth glymblaid gyda Llafur oedd yn cadarnhau ei [...]