Hoff ffrwyth? Eisteddfod genedlaethol orau?
Mae’n swyddogol, ceirios yw hoff ffrwyth y darllenwyr a wnaeth ddewis ymateb i bôl piniwn diweddaraf Blog Dogfael. Rhaid imi gyfaddef bod hyn yn dipyn o syndod i mi gan fy mod wedi disgwyl gwel mefus yn ennill y dydd – yn arbennig felly oherwydd fod pencampwriaeth Wimbledon a’r BBC wedi bod yn heipio’r ffrwyth hwnnw yn ddi-drugaredd dros y pythefnos diwethaf. Diolch byth fod darllenwyr Blog Dogfael â digon o annibyniaeth meddwl i ddewis eu hoff ffrwyth eu hunain. Y tro hwn hoffwn i petai darllenwyr y blog yn dweud pa un yn eu tyb hwy oedd eisteddfod genedlaethol orau yr unfed ganrif ar hugain (dwi’n gwybod fod Llanelli 2000 yn perthyn i’r ugeinfed ganrif mewn gwirionedd, ond mae’n cael ei chynnwys er hynny!).
Hoff ffrwyth darllenwyr Blog Dogfael
| Ffrwyth | Pleidlais |
|---|---|
| Ceirios | 12 |
| Mefus | 10 |
| Bananas | 8 |
| Ffrwyth Kiwi | 6 |
| Afalau | 4 |
| Orennau | 4 |
| Eirin gwlanog | 2 |
| Gellyg | 0 |


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Daw dydd y bydd mawr y ‘rhai plyms’!!: -) Ceirios – watch your back!!
Orennau i fi ar y maes, wastad! Mae ceirios mor dda hefyd -rwy’n dod o dre ceirios: Witzenhausen.
Mwynha dy Eisteddfod eleni, Lyn, Annette Strauch.