Hanes ym Mhontrhydfendigaid

Mae'r cyfan drosodd am heddiw!Y peth diwethaf y mae blogiwr am fod yn euog ohono yw bod yn ystrydebol. Felly dwi’n ofni ac yn petruso rhag defnyddio’r gair ‘hanesyddol’ i ddisgrifio beth ddigwyddodd ym Mhontrhydfendigaid dros y penwythnos. I raddau mae’n rhaid cael y peth mewn persbectif o gofio beth sydd wedi digwydd i un o’r chwaraewyr yn y gêm heddiw. Mae’n rhaid bod gair arall i’w gael y buasai’n rheitiach ei ddefnyddio:-’arwyddocaol’ efallai, ynteu ‘nodedig’. Ond y gwir amdani yw nad yw’r un ohonynt yn dod yn agos i grynhoi’r teimlad a gefais o fod yno. Felly er gwaethaf fy mwriadau da, fy nymuniad i ddangos teithi’r iaith, nid oes unrhyw fodd imi ddisgrifio’r cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru ond fel un hanesyddol. Roeddwn i yno, ond doedd gen i ddim pleidlais – doeddwn i yn ddim ond sylwebydd.

Ar un adeg, oherwydd nad oedd gen i bleidlais, roeddwn wedi ystyried peidio â mynd o gwbl. Ond wedi cyfarfod nos Iau gydag Ieuan Wyn Jones yn Aberystwyth roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n rhaid imi fod yno. Ond dyma fy nghyfeillion RO a DJP yn fy annog i fyd, a dwi’n mor falch iddyn nhw lwyddo fy mherswadio ac mor ddiolchgar i RO am roi lifft i mi.

Un bleidlais dyngedfenolRoedd yn gyfarfod hir o 11.00am tan rhyw 4.00pm. Felly does dim ffordd imi ddweud beth ddigwyddodd yn fanwl. Y cyfan ddyweda i oedd fod pawb yn gweld nad oedd dewis arall ar gael er bod gan lawer amheuon am ddilyn y llwybr o glymbleidio gyda’r blaid Lafur. Ond roedd hynny’n llawer mwy sefydlog a diogel na cheisio creu clymblaid amgen gyda’r Dem Rhyddiaid yn rhan ohoni. Roedd y rhan fwyaf a siaradodd yn weddol sicr nad fuasai dim ond trafferth o geisio gwneud dim gyda nhw.

Adam PriceRoedd nifer o ddyddiadau yn cael eu crebwyll gan y siaradwyr: 1282 (fe aeth un siaradwr mor bell â dyfynnu adrannau sylweddol o awdl Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen), 1900-1903 (Streic y Penrhyn), 1984-1985 (Streic y glowyr). Ond yr un dyddiad a gafodd ei grybwyll yn fwy aml na’r gweddill oedd 1979. Roedd hynny’n taro tant gyda fi, fel un a oedd ond yn ddeunaw mlwydd oed pan ddigwyddodd y trychineb hwnnw. Mae’n anodd credu pa mor dywyll yr oeddwn i’n gweld pethau canlyniad y refferendwm y flwyddyn honno, a chymaint tywyllach oedd pethau wedi’r etholiad cyffredinol yr un flwyddyn. Credwn fod popeth ar ben. Roeddwn yn sicr na welid cyfle yn mynd byth eto i sefydlu unrhyw fath o gymanfa genedlaethol i Gymru. Ac yn bendant roedd unrhyw gred y buasai gobaith i genedlaetholwyr gael rhan yn llywodraeth ein gwlad yn ffantasi pur. A dyma ni, bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn penderfynu a yw Plaid Cymru yn mynd i fod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Dim rhyfedd fy mod i’n teimlo fod hyn yn wirioneddol hanesyddol.

Roedd rhyw deimlad o ‘hand of history on the shoulder’ am sylwadau Adam Price. Cafwyd rhagflas ohonynt ar ei flog o dan y teitl Voices from history.

Beth yw cenedl? asked Waldo whose other famous poem Cymru’n Un gave us the name of the historic programme my party will debate tommorow. Waldo, who came to Plaid, like so many others, via pacifism and the ILP, gave that most evocative, almost mystical answer: cadw tŷ mewn cwmwl tystion. This is what early Christians called the “fellowship of the saints”.

Plaid Cymru has its ’saints’ who are sadly no longer with us – all those who worked so tirelessly who never saw what we may yet see: Plaid Cymru ministers in a Welsh Government and a Parliament for Wales. But I am sure their spirits will be felt tomorrow in the Pafiliwn when we gather as a party in Pontrhydfendigaid.

Ieuan Wyn Jones yn siaradY bore ‘ma wrth gyflwyno’r newyddion ar Radio Cymru dyma sylwais ar yr hyn yr oeddwn i’n ei weld fel tinc o syndod yn llais Heledd Siôn wrth iddi gyhoeddi taw’r “brif stori heddiw yw gwleidyddiaeth Cymru”. Dwi’n siŵr nad oedd hi wedi gwneud dim byd o’r fath, ond dyna a gylwais i a dyma fi’n troi at y radio a dweud wrthi, “Byddai’n well i’r BBC ddod yn gyfarwydd â hyn gan fod amserau diddorol o’n blaenau, dim ots beth sy’n digwydd!”

Canu’r anthem genedlaethol ar ddiwedd y cyfarfod

Roeddwn i’n ymdeimlo ag arwyddocâd diwrnod a dyna a wnaeth imi dynnu nifer fawr o luniau o bron â bod pawb a wnaeth siarad ar y dydd.

Rhagor (os nad gormod) o luniau o’r diwrnod ym Mhontrhydfendigaid.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>