Llywodraeth glymblaid yn agosáu

Ieuan Wyn Jones ACNos yfory mae’r Blaid Lafur yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod a phleidleisio ar y cytundeb ar gyfer llywodraeth glymblaid gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae lleisiau wedi’u clywed yn erbyn gan rai o hoelion wyth Llafur – Paul Murphy, Don Touhig a’r Dr Kim Howells. Rydyn ni hefyd wedi clywed pedair aelod o’r Cynulliad yn datgan eu bod yn erbyn y cytundeb; dwi’n ofni nad yw’r un ohonyn nhw yn enwog iawn am eu cyfraniad yn y Senedd. Pan ddaeth yr Ail Gynulliad i ben ei dymor dyma’r asesiad a gafodd y pedair yn y Western mail.

Irene James, Islwyn, Labour
Comment: Useless nonentity as far as we are concerned. Has added nothing to the Assembly that we can see
Marks out of 10:2

Ann Jones, Vale of Clwyd, Labour
Comment: Poor performer noted only for her obsessive support of Rhyl FC.
Marks out of 10: 3

Lynne Neagle, Torfaen, Labour
Comment: Consistently fails to impress
Marks out of 10: 3

Karen Sinclair, Clwyd South, Labour
Comment: Very poor Cabinet member by our reckoning who was swiftly dumped by Rhodri Morgan
Marks out of 10: 3

Dwi ddim yn credu bod angen imi ddweud mwy.

Elin Jones AC ac Ieuan Wyn Jones ACHeno fe fues i yn yr olaf mewn cyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru gan Ieuan Wyn Jones i esbonio (gwerthu?) y cytundeb clymblaid gyda Llafur i aelodau Plaid Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod yng nghanolfan Morlan ac roedd torf dda wedi dod ynghyd i wrando beth oedd ganddo i’w ddweud ac i’w holi am y cytundeb. Cafwyd cyflwyniad caboledig gan Ieuan Wyn Jones sydd wedi ennill llawer iawn o hyder yn dilyn yr etholiad fis Mai. Mae wedi ennill hyder ac wedi ennyn parch tuag ato’i hun o fewn rhengoedd aelodaeth Plaid Cymru. Mae wedi arwain y trafodaethau gyda’r pleidiau eraill yn gyfrifol heb fopio’i ben ar yr un o’r opsiynau. Yn ei araith fe esboniodd yn eglur ac yn bendant pam ei fod ar ddiwedd y dydd wedi penderfynu taw clymblaid gyda Llafur oedd yn dod â’r canlyniadau gorau i Gymru ac i Blaid Cymru. Nid oedd pawb yn y gynulleidfa yn cytuno gydag ef, ond fe atebodd gwestiynau ac ymateb i sylwadau gydag awdurdod a gonestrwydd. Dwi’n teimlo’n llawer yn fwy hapus ar ôl bod i wrando ar hyn. Dwi’n dal i fod ag amheuon am y cytundeb (fel gyda’r cytundeb enfys) ond dwi’n deall pam ein bod wedi dod i’r sefyllfa hon a pham bod mwyafrif aelodau’r Cynulliad wedi dewis y glymblaid Llafur-Plaid Cymru. Gan nad oes dewis bellach dwi’n credu ei bod hi’n rhaid inni weithio gyda’r hyn sydd gennym. Dwi’n gobeithio fy mod yn iawn i dderbyn dadleuon Ieuan Wyn Jones a’r ACau ar hyn.

Rhagor o luniau o’r noson gydag Ieuan Wyn Jones yn Aberystwyth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>