Pleserau dirgel

Ystafell y cyngor, Prifysgol Cymru BangorTra roeddwn i yn yr Ysgol Haf ym Mangor fe gefais gyfle i fwynhau un o’m pleserau dirgel, sef crwydro o gwmpas “tŷ” rhywun arall yn pipo o gwmpas ac yn gweld beth welwn i. Oherwydd yr Ysgol Haf roedd hi’n bosib mynd i mewn i rai ystafelloedd na fyddai ar agor fel arfer. Un o’r rheiny oedd Ystafell y cyngor. Treuliais ryw hanner awr yn mynd o bortread i bortread ac yn eistedd yn y gadair hon a’r gadair arall. Dyna ichi Syr Wynn Wheldon, yr Athro Eric Sunderland a’r Ustus William Mars-Jones – pob un ohonyn nhw wedi cyfrannu yn eu ffordd eu hunain i fywyd ein cenedl.

Portread yr Athro Eric SunderlandDwi’n credu taw’r tro olaf imi fod yn agos i Ystafell y cyngor ym Mangor oedd dros bum mlynedd ar hugain yn ôl pan roedd y coleg yn ferw oherwydd ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Colegau Bangor, yr enwog UMCB (wedi’i ynganu IMCyBy yn hytrach nag U-eM-eC-Bi!) – undeb myfyrwyr annibynnol nad oedd yn perthyn i’r NUS. Oherwydd yr ymgyrchu gwaharddwyd nifer o aelodau’r undeb o’r coleg. Bryd hynny Syr Charles Evans oedd prifathro’r coleg a Bedwyr Lewis Jones yn bennaeth yr Adran Gymraeg. Roeddwn i ar fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg yn Aberystwyth, ond roedd gen i ffrind ysgol oedd yn astudio cerddoriaeth ym Mangor ac felly roeddwn i’n cadw mewn cysylltiad gyda’r hyn oedd yn digwydd yno. Sefydlwyd UMCB yn 1976 ac erbyn 1978 roedd yr anghydfod yn ei anterth. Dwi’n deall bellach fod yr undeb wedi ail-ymuno gyda’r NUS yn 1996. Yn 1978 y cyhoeddwyd cyfrol fechan John Glyn ar ‘Hanes yr undeb’ ac fe gefais fy ysbrydoli gyda’i hanes am Y Cymric yn cymryd y cam o sefydlu undeb eu hunain. A’r hyn a’m trawodd i wrth ddarllen yr hanes oedd arwyddocâd yr enw, Undeb Myfyrwyr COLEGAU Bangor, yn hytrach na Undeb Myfyrwyr CYMRAEG Bangor. Doedden nhw ddim yn fodlon derbyn y sefyllfa lle’r oedden nhw’n lleiafrif oedd yn fodlon derbyn y safle hwnnw.

Drws swyddfa yr Athro Peredur I Lynch, Prifysgol Cymru BangorWedyn fe es i ymlaen i weld beth arall y gallwn i ddod o hyd iddo. Dyma fynd heibio i swyddfa Meri Huws, un o ddirprwy is-gangellorion Prifysgol Cymru Bangor a Chadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Wedyn dyma ddod at Ysgol y Gymraeg a heibio i ddrysau swyddfeydd Yr Athro Peredyr I Lynch a’r Athro Gerwyn Williams. Sylwi ar gadair Berw a’r hysbysfwrdd. Wedyn roedd fy amser ar ben ac roedd yn rhaid imi fynd i un o weithdai’r Ysgol Haf. Ond roeddwn i wedi cael rhyw awr o bleser pur yn busnesu o gwmpas Prifysgol Cymru Bangor.

Cadair, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor

Beth am grwydro’r coridorau gyda Dogfael ym Mhrifysgol Cymru, Bangor?

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (5 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.60 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>