Ddydd Llun roedd dydd Gwener yn ymddangos yn bell iawn. Ond hedfanodd yr amser ac fe ddaeth yn ddiwrnod olaf yr Ysgol Haf. Roedd heddiw’n ddiwrnod o ysbrydoli, o’n sicrhau fod newid yn bosib ac o ddweud hanesion am lwyddiant pobol i newid. Cychwynnwyd y diwrnod gan y cadeirydd, Dr Neil Wooding, a ddiolchodd i bawb am fod yn gyson yn mynychu’r sesiynau a’n hannog i feddwl o ddifrif am sut yr oedd hi’n fwriad gennym i weithredu’r hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yn ystod yr wythnos.
Y siaradwr cyntaf oedd Richard Gerver, pennaeth Grange Primary School yn Long Eaton, Swydd Derby. Fel pennaeth fe lwyddodd Richard Gerver i newid yr ysgol a’i gwneud yn batrwm ar gyfer ysgolion eraill. Roedd ei waith yn drawiadol iawn er bod gen i lawer o gwestiynau am beth a ddigwyddodd yn union, ond roedd ei allu i gyfathrebu ac i’n hysbrydoli yn rhyfeddol. Ar ôl gwrando arno roeddwn i am fynd allan a newid y byd fy hunan. Y neges yr oeddwn i’n ei chlywed oedd fod newid yn bosib, a’i bod yn bosib i ni fod yn asiantau newid yn ein sefydliadau. Ond fe’n rhybuddiodd rhag bod yn rhy naïf yn ein cred yn ein gallu i newid y byd drosom ni ein hunain. Rhaid i newid ddigwydd trwy a chyda phobol eraill. Er mwyn dysgu’r wers hon i ni fe ddangosodd y fideo hwn.
Doedd honno ddim yn wers yr oedd yn rhaid i’n hail siaradwr ei dysgu. Yn dilyn grwpiau trafod lle’r oeddem yn cael ein hannog i lunio rhaglenni o weithgaredd personol yn seiliedig ar yr hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yn ystod yr wythnos fe gafwyd cyflwyniad gan Colin Jackson. Doeddwn i ddim wedi disgwyl rhyw lawer, ond cefais fy siomi ar yr ochr orau. Roeddwn am glywed beth oedd ganddo i’w ddweud. Canolbwyntiodd ar ei ‘fethiant’ yng Ngemau Olympaidd Barcelona yn 1992 – yr hyn a arweiniodd at hynny, a’r ffordd y deliodd gyda’r methiant hwnnw. Yn y pendraw fe arweiniodd at lwyddiant pencampwriaethau’r byd a’r record byd y flwyddyn ganlynol. Yr oedd ei stori yn anogaeth i ddal ati hyd yn oed yn wyneb siom a methiant. Ac wrth gwrs wedi ennill pencampwriaeth y byd a gosod record byd, doedd ond un ffordd i fynd wedyn, sef i lawr neu at ddawnsio!
Ac wedyn yr oedd y cyfan ar ben, pawb yn ffarwelio, casglu cesys, ac yn ymadael. Roeddwn i yn ôl yn Aberystwyth erbyn rhyw bump o’r gloch y noson honno.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael