Pôl piniwn deddf iaith
Roeddwn i wedi cael hwyl ar wrando ar raglen Rebecca Jones ar Radio Cymru y bore ‘ma, yn enwedig ei chyfweliad gyda Jill-Hailey Harries, gweinidog gyda’r Annibynwyr, ynglŷn â phriodas a phriodi fel fy mod wedi mynd i deimlo’n hunan-fodlon. Yna’n sydyn fe gefais fy nihuno gan gyhoeddiad ar y Newyddion fod arolwg barn yn dangos nad oedd mwyafrif pobol Cymru am weld Deddf Iaith newydd i orfodi cwmnïoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Ond roedd y stori’n cael ei throi o gwmpas yn gyson fel yn y diwedd nad oedd dyn yn rhy siŵr beth oedd y cwestiwn a ofynnwyd yn yr arolwg a beth oedd arwyddocâd yr atebion. Ar fwletin 7.00am ar Radio Cymru fe aeth y newyddiadurwr ati i ddweud beth oedd y canlyniadau mewn un ardal awdurdod unedol ar ôl y llall. Nawr dwi ddim yn llawer o fathemategydd ond roeddwn i’n dechrau holi fy hun pa mor ystadegol gywir oedd dweud fod 69% o drigolion Ceredigion yn erbyn Deddf Iaith newydd ar sail arolwg ffôn o 1,000. O rannu’r rhif hwnnw’n gyfartal rhwng 22 awdurdod dyna ichi rhyw 45 ymhob un; dwi ddim yn credu fod hynny’n ddigon i roi arolwg cytbwys o farn poblogaeth un sir. Dwi wedi bod yn chwilio ar y we am fwy o fanylion am y pôl – fel faint yn union gafodd eu holi yng Ngheredigion – ac wedi methu hyd yn hyn.
Dyma’r wybodaeth sydd ar wefan Newyddion Cymru’r Byd BBC am ganlyniad yr arolwg:
Yn ôl arolwg ICM, roedd 24% o’r rhai gafodd eu holi yn credu y dylai pob busnes preifat yng Nghymru gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Roedd 63% yn dweud na ddylai’r ddeddf bresennol newid…
Cafodd mwy na 1,000 eu holi ar gyfer arolwg ICM dros y ffôn rhwng Mehefin 19 a 21.
Does dim angen imi ddweud fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweld pethau’n wahanol, gan ddweud fod BBC yn gwneud gwaith y CBI drostynt.
Hoffwn i wybod pam cynnal y pôl ar yr adeg hon ‘ta beth? Ar ôl ymgyrch etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol lle na gomisiynodd y BBC yr un pôl piniwn mae’r ffaith iddyn nhw gomisiynu hyn yn fy synnu. Hoffwn hefyd gael mwy o wybodaeth am y canlyniadau a sut roedden nhw’n rhannu rhwng ardaloedd, &c. Hefyd beth oedd yr union gwestiynau a holwyd, gan fod y cwestiwn yn aml iawn yn lliwio’r ateb a geir.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Plant anwirionedd yw ystadegau. Mae’r teip hwn o holiadur yn gweid mwy am y bobl sy’n eu llunio nhw na’r atebion a gawn. Dibynnu pwy ochr y ffens wyt ti’n byw ac fel wyt ti’n geirio rhywbeth – un tro fe gei di un ateb a’r llall fe gei di ateb arall. Dyw e’m gwerth poeni yn ei gylch e.
Cytuno’n llwyr gyda thi Ceri Wyn. Ond, tybed pa mor aml y byddwn ni’n clywed y ffigwr o 63% yn erbyn deddf iaith newydd yn cael ei grybwyll yn nadleuon y dyfodol ar y pwnc, yn arbennig felly o enau llefarwyr CBI Cymru. Ac fe fydd awdurdod yn cael ei ychwanegu at y ffigwr hwnnw wrth ddweud ei fod yn seiliedig ar arolwg a gomisiynwyd gan BBC. Bydd neb wedyn yn mynd yn ôl i wirio amgylchiadau ac amodau gwneud yr arolwg.