Hedd Wyn

Gyda phawb yn sôn am Hedd Wyn heddiw naw deg mynledd wedi iddo gael ei ladd ar Gefn Pilkem, Fflandrys yn ystod brwydyr Passendale 31 Gorffennaf 2007. Dyma lun a dynnais i allan o ffenest car o’i gofeb yn Nhrawsfynydd. Oddi tano mae ‘na lun arall ohonof fi yn sefyll wrth ei fedd yn Fflandrys [...]

Bwyty Ultracomida, Aberystwyth

Ddydd Sadwrn fe fues i ym mwyty y delicatessen Iberaidd-Gymreig Ultramcomida am y tro cyntaf. Dwi wedi bod yn y siop ei hun lawer gwaith ac wedi prynu bwyd parod cymryd-i-ffwrdd hefyd, ond dyma’r tro cyntaf i mi fynd i’r ystafell yn y cefn i eistedd lawr i gael pryd yno. Roeddwn wedi pipo mewn [...]

Dim glaw yn Aberystwyth

Roedd heddiw’n ddiwrnod braf yn Aberystwyth a dim sôn am law. Felly wedi cinio a gwasanaeth yr hwyr fe fues i allan am dro ar y prom yn tynnu lluniau a gwneud fideos. Roedd yr Hen Goleg yn edrych yn arbennig o ogoneddus yn yr haul ac roedd y goleuni yn gwneud i garreg yr [...]

Beth mae DML yn ei ddarllen 2007-07-28

Wel mae’r amser wedi dod i wneud arolwg o’r hyn sydd wedi crynhoi ar ford goffi Plas-yn-Dogfael unwaith eto ac mae ‘na ambell i syrpreis yn ein disgwyl.

Llyfrau

Joseph O’Connor, Star of the sea: farewell to old Ireland. (London: Vintage, 2003)
George Orwell, Essays. (London: Penguin Classics, 2000)
Diarmaid McCulloch, Thomas Cranmer: a life. (New Haven; London: Yale [...]

Shambo yn gadael Skanda Vale

Yn ôl gwefan BBC Cymru mae Shambo’r bustach wedi gadael y deml yn Skanda Vale, Sir Gaerfyrddin. Rhaid imi gyfaddef nad yw’r holl ddadl wedi cynhyrfu llawer iawn arna i. Fel crefyddwr fy hun mae gen i gydymdeimlad gyda phobl eraill sydd am yr hawl i arfer eu crefydd. Ond mae’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, [...]

Darpar fwydlen ar gyfer yr eisteddfod

Fel y gŵyr darllenwyr Blog Dogfael rwy’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol gyda chyfeillion a dwi’n neilltuo peth o’m hamser i baratoi bwyd gyda’r nos fel bod y rhai sy’n gwasanaethu’r genedl yn well na fi trwy brotestio ac ymgyrchu, neu trwy farddoni a siarad am ddiwylliant yn cael eu diwallu. Dwi’n mwynhau a dwi’n ceisio [...]

Teimlo ychydig yn well

Mae’n rhaid fy mod i’n teimlo’n well gan fy mod wedi gweld rhywbeth heddiw a wnaeth fy nghythruddo i’r fath raddau fel fy mod wedi anghofio am fy annwyd. Wedi tri diwrnod yn y gwely yn yfed fy ‘Lemsip’ generig o Superdrug a lemwn a mêl mewn dŵr poeth fe wnes fentro mas i’r byd [...]

Gwyliau

Dwi’n falch o gael dweud fy mod wedi gwneud y rhan fwyaf o’r trefniadau ar gyfer fy ngwyliau. Gwyliau dau ganolfan fydd eleni eto – sef Brwsel (unwaith eto!) a Strasbourg. Y bwriad ar hyn o bryd yw treulio pedair noson yn Strasbourg a chwech noson ym Mrwsel gan ddychwelyd i Aberystwyth erbyn diwedd mis [...]

Llongyfarchiadau

Dwi’n ymwybodol iawn fod ‘na un peth nad ydw i wedi sôn amdano ar y blog hyd yn hyn a hynny yw ffurfio’r cabinet yn dilyn cytundeb clymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Byddai’n dda fod wedi gweld un aelod arall gan Blaid Cymru yn y cabinet, ond dwi’n ofni fod un [...]

Gwawr Casnewydd

Dwi newydd wylio rhaglen wych yn y gyfres Wynebau newydd (Telesgôp) ar wefan S4C. Roedd y rhaglen wyliais i yn adordd hanes pedair myfyrwraig o Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, sy’n ymuno â changen Merched y Wawr Casnewydd. Roedd y rhaglen Gwawr Casnewydd yn rhoi cipolwg inni beth ar beth oedd effaith hynny ar Ferched y [...]

Welsh International Super Cup 2007

Wrth ddod o’r eglwys heno ar ôl pregethu ar Salm 30, fe gefais sioc i glywed band drymio yn dod i fyny Stryd y Bont, Aberystwyth. Dyma oedd seremoni agoriadol Twrnamaint Pêl-droed Rhyngwladol Cymru, sy’n cael ei adnabod bellach fel Welsh International Super Cup. Yr hen enw arno oedd Twrnamaint Ian Rush. Mae wedi bod [...]

Taith i ogledd Powys a’r gororau 8

Dyma fap o’n taith i ogledd Powys a’r gororau yn dangos y ffyrdd y gwnaethon ni eu dilyn a’r prif lefydd yr ymwelwyd â hwy.

(Dim pleidlais eto)

Taith i ogledd Powys a’r gororau 7

Roedd ‘na ddau le roedd DJP am ymweld â hwy ar y ffordd yn ôl am adref. Dau le sy’n gysylltiedig â dau ffigwr allweddol yn hanes Cymru dros yr hanner canrif diwethaf. Y lle cyntaf oedd Manafon. Yr atynfa oedd cysylltiad y lle gyda’r bardd, R S Thomas. Roedd ef wedi bod yn offeiriad [...]

Tro i ogledd Powys a’r gororau 6

Tyfodd Croesoswallt o gwmpas Eglwys S. Oswallt. Mae enw’r sant i’w weld yn eglur yn yr enw Cymraeg. Ceir adlais o’i enw hefyd yn y ffurf Saesneg, Oswestry, y dywedir ei fod yn tarddu o ryw ffurf ar Oswald’s tree oherwydd fod corff Oswald neu Oswallt, brenin Northumbria, wedi’i ddarnio a bod aderyn wedi cario [...]

Ble hoffet ti fyw?

Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod yn nes mae’n ddiddorol taw’r eisteddfod a gafodd ei dewis fel eisteddfod orau’r unfed ganrif ar hugain (hyd yn hyn) gan ddarllenwyr Blog Dogfael yw Eisteddfod Dinbych 2001. Gobeithio y bydd eisteddfod yr Wyddgrug yr un mor llwyddiannus yng ngolwg darllenwyr y blog. Yn y bleidlais nesaf dwi’n ceisio gweld [...]

Blog Dogfael wedi’i enwebu ar gyfer gwobr

Mae Yr Academi:The Welsh Blog Academy yn trefnu Gwobrau Blogio 2007 ar gyfer pob math gategorïau o flogiau – Blog gorau, Blog personol, Blog doniol, Cymuned ar-lein, Blog/safwe amlgyfrwng, Blog arbenigol (heb fod yn wleidyddol), Blog eclectig, Blog Cymreig Americanaidd, Blog dysgwr, Blog gwleidyddol, Blog glweidydd, Dynluniad blog. Y newyddion mawr (i fi o leia!) [...]

Jonsi, Geraint Lloyd a sgandal y BBC

Neithiwr cyhoeddodd y BBC fod pob cystadleuaeth ffôn a drefnir ganddynt, “all its TV and radio phone-related competitions” yn ôl y datganiad, yn dod i stop hyd nes bod holl sgandalau’r gorffennol wedi’u hastudio’n fanwl. Ydy hynny’n golygu y bydd cystadleuaeth brawddeg Jonsi a chiosg ffôn Geraint Lloyd yn dioddef hefyd? Mae’n ymddangos yn annheg [...]

Tro i ogledd Powys a’r gororau 5

Wedi bod i Sycharth mae disgwyl i bob man arall fod yn siom. Ond nid felly y bu ddydd Sadwrn. Roedd cael haul ac awyr las yn ddigon o ryfeddod, ond roedd cael hynny a ninnau ar y gororau fel hyn yn fwy byth o reswm dros wneud cymaint ag y gallen ni. Felly ar [...]

Llythyr oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion

Wythnos diwethaf fe wnes i dderbyn llythyr gan Adran Gyllid Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â thalu Treth y Cyngor. Byddaf yn talu treth Plas-yn-Dogfael trwy ddebyd uniongyrchol. Ond am ryw reswm neu’i gilydd nid oedd taliad Gorffennaf wedi’i dynnu o’r cyfrif. Daeth yr esboniad yn y post. Pam na chasglwyd y taliad? “Camgymeriad technegol.” Digon [...]

Tro i ogledd Powys a’r gororau 4

Dwi wedi bod yn dymuno mynd i Sycharth ers blynyddoedd. I ddweud y gwir dwi wedi bod yn edrych am Sycharth am flynyddoedd, ond heb ei ganfod. Am ryw reswm dwi wedi methu â dod o hyd i’r hyn sydd ar ôl o blas Owain Glyn Dŵr bob tro yr ydw i wedi bod yn [...]