Thema y dydd heddiw oedd Diwylliant Trawsnewid a chadeiriwyd y sesiynau gan un o brif weision sifil Cymru, sef pennaeth yr Adran Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, Steve Marshall. Mae e’n dod yn wreiddiol o Awstralia ac roedd hynny’n amlwg. Ei waith yntau oedd cyflwyno swyddog hyd yn oed pwysicach, sef ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru – pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru, mewn geiriau eraill – sef, Syr Jon Shortridge. Mae e wedi bod yn bennaeth ers Mawrth 1999. Ef oedd yn gyfrifol am y gwaith o trawsnewid y Swyddfa Gymreig yn Gynulliad Cenedlaethol. Ef oedd yn gyfrifol hefyd am ail-gyflunio llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.
Yn ei gyflwyniad fe ganolbwyntiodd yntau ar y gwaith o sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn drefniadol a’r newid diwylliant a olygodd hynny i’r sefydliad a oedd yn bodoli cynt. Un peth diddorol iawn a wnaeth ddweud oedd fod y llywodraeth Dorïaidd gyda William Hague wedi gwrthod gadael i unrhyw un o’r swyddogion yn y Swyddfa Gymreig i wneud unrhyw waith i baratoi am ddatganoli. Golygodd hynny taw dim ond o Mai 1997 tan Fai 1999 oedd ganddyn nhw i gynllunio a gweithredu’r newid. O glywed hynny mae’n gwneud i ddyn ystyried pa mor fawr oedd eu camp yn llwyddo. Pwysleisiodd hefyd fel rheolwr ei nod yw cynnal enw da y sefydliad y mae’n ei reoli gan ychwanegu at hynny, a dyna a geisiodd yntau wneud gyda’r Cynulliad Cenedlaethol. Dywedodd y gallai unrhyw fath o sgandal difrifol – ar raddfa llawer llai na’r hyn a welwyd yn San Steffan a Whitehall ar y pryd – fod wedi tanseilio’r sefydliad. Yn fe siaradodd yn bersonol am sut mae e’n gweld ei hun a’i werthoedd yn llywio Llywodraeth y Cynulliad o safbwynt gwas sifil. Fe wnaeth grynhoi gyda thri phwynt:
-
1.ei bod hi’n bwysig i fod yn barod i wneud pethau’n wahahol;
2.ei bod hi’n bwysig i fod yn barod i wneud pethau ar y cyd gydag eraill, cydweithio; a
3.ei bod hi’n rhaid arwain newid yn effeithiol.
Yr ail gyflwyniad oedd un John Campbell yn adrodd straeon am beth mae wedi’i olygu iddo fe fod yn gyfrifol am newid diwylliant pobl a sefydliadau. Roedd yn storïwr da ac yn dangos ei bwyntiau gyda’r straeon hyn. Wrth ddweud beth oedd y problemau neu’r hyn sy’n gwneud newid yn anodd fe restrodd nifer o bethau sy’n swnio’n adnabyddus:
- newid er mwyn newid;
- tagu gan fenter ar ôl menter;
- newid yn digwydd am fod rhywun wedi dweud fod newid yn mynd i ddigwydd;
- geiriau heb sylwedd iddyn nhw;
- mesur anghywir = ymddygiad anghywir.
Yn gyferbyniad fe restrodd beth oedd y elfennau a allai arwain at newid llwyddiannus:
- rheswm digonol dros wneud;
- arweiniad cadarn;
- parodrwydd i ymwneud gyda’r newid;
- newid yn seiliedig ar gryfderau;
- bod cysondeb i’w gael pan nad yw pethau cystal.
Wedi cinio fe es i weithdy ar Emotional Intelligence sef y gallu i ganfod, asesu a rheoli eich emosiwn eich hun ac emosiwn pobol eraill. Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer newid ac mae methu deall rhan emosiwn yn ein cyfathrebu yn medru bod yn rhwystr i hynny.
Yn sesiwn olaf y dydd cafwyd astudiaeth achos o berthynas Ymddygiad a diwylliant. Y siradwr oedd Irwin Turbitt sydd yn gymrawd yn Ysgol Fusnes Warwick ond a oedd yn 2002 yn swyddog uchel yng Ngwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon ac yn gyfrifol am blismona ar ddiwrnod yr orymdaith yn Drumcree. Y flwyddyn honno oedd y flwyddyn olaf i derfysg ddigwydd ar yr orymdaith ac fe aeth ati esbonio pam ddigwyddodd hynny a pham nad oes terfysg wedi digwydd yno wedyn. Yr oedd yn ddiddorol ynddo’i hun, ond roedd yn ddiddorol hefyd i’w weld yn defnyddio rhywbeth oedd y tu fas i brofiad y rhan fwyaf yn yr Ysgol Haf fel dull o edrych ar y berthynas rhwng ymddygiad a diwylliant. Ceisiodd ddangos fod newid ymddygiad yn medru arwain at newid meddylfryd ac felly diwylliant a hynny wrth i’r rheolwr fabwysiadu polisi o fod yn fodlon newid yn ôl y galw. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd bod Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi paratoi ar gyfer plismona Drumcree trwy seminar gan athro rheolaethol o Havard, a’r brif astudiaeth achos a ddefnyddiwyd fel rhan o’r hyfforddi hwnnw oedd rheoli gwasanaeth llyfrgell!
Ar ddiwedd y dydd fe aeth pawb i’w grwpiau trafod ac yn ein grŵp ni, ymhlith pethau eraill, trafodwyd y defnydd neu’r diffyg defnydd o’r Gymraeg trwy’r gynhadledd.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael