Swper gydag Emma Reese

Plas Gwyn, Ffriddoedd, BangorNeithiwr, wedi’r holl drafod yn yr Ysgol Haf, roedd gen i waith pleserus iawn – cyfarfod gydag Emma Reese ym Mhlas Gwyn er mwyn cael swper. Mewn un ffordd roedd y peth yn un ochrog, roedd Emma yn gwybod tipyn go lew amdana i, a finnau’n gwybod y nesaf peth i ddim amdani i. Ond mewn ffordd arall roedd gen i’r fantais gan fy mod i’n siarad Cymraeg fel mamiaith a dyma’r tro cyntaf i Emma fod yng Nghymru a siarad Cymraeg gyda phobol go iawn! Roeddwn i wedi dweud na fyddwn i’n gofyn y cwestiynau arferol am ddysgu Cymraeg, nid nad oeddwn i am wybod pryd a ble a pham y cyfan, ond roeddwn i am wybod pethau eraill yn gyntaf. Buom yn siarad am dros awr yn ddi-stop a dwi’n gobeithio fod Emma yn teimlo’n dda amdani ei hun gan ei bod hi wedi dilyn a chyfrannu i’r sgwrs yn gwbl ddidrafferth. Dwi’n gwybod cymaint o deimlad o lwyddiant o falchder dwi’n ei deimlo pan fydda i wedi dweud un frawddeg mae rhywun arall yn ei deall a chwedyn deall yr ateb hefyd. Mae e hefyd yn beth blinedig iawn. Fel siaradwyr Cymraeg naturiol rydyn ni’n medru bod yn anodd iawn i’n plesio gyda’r rhai sy’n dysgu siarad Cymraeg heb sylweddoli cymaint o ymdrech yw hi i ddysgu iaith; rydyn ni’n medru bod yn anghwrtais ar brydiau a disgwyl gormod. Ac yna pan fyddwn ni’n mynd ar wyliau neu daith i wlad lle mae iaith arall yn cael ei siarad rydyn ni’n ei chael hi’n ddigon hawdd i siarad Saesneg heb wneud unrhyw ymdrech bron i ddysgu na dweud dim yn yr iaith arall, gan ddangos sut yr ydym ni wedi amsugno imperialaeth Saesneg i raddau helaeth iawn. Mae hynny yn fy hala i yn grac.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Swper gydag Emma Reese

  • Diolch am y gwahoddiad catfael, caredig iawn. Yn anffodus mae’n 10.00pm nos Iau arna i’n cael y neges a dwi’n mynd adref amser cinio yfory. Ond dwi’n siwr o dy weld di yn yr eisteddod, on’d ydw i?

  • catfael

    Wedi darganfod dy fod ym Mangor. Mae croeso iti ddod draw am swper os wyt yn cael y neges yma mewn pryd cyn iti adael!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>