Roeddwn i wedi trefnu i gwrdd gydag Emma Reese am sgwrs am 6.00pm felly yn syth ar ôl y grŵp dyma fynd yn ôl i safle Ffriddoedd i gwrdd gyda hi. Fe ddaeth NMD hefyd ac fe gawsom sgwrs hyfryd yn y Siop Goffi ar y safle. Aeth NMD ar ôl rhyw dri chwarter awr [...]
Thema y dydd heddiw oedd Diwylliant Trawsnewid a chadeiriwyd y sesiynau gan un o brif weision sifil Cymru, sef pennaeth yr Adran Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, Steve Marshall. Mae e’n dod yn wreiddiol o Awstralia ac roedd hynny’n amlwg. Ei waith yntau oedd cyflwyno swyddog hyd yn oed pwysicach, sef ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru [...]
Neithiwr, wedi’r holl drafod yn yr Ysgol Haf, roedd gen i waith pleserus iawn – cyfarfod gydag Emma Reese ym Mhlas Gwyn er mwyn cael swper. Mewn un ffordd roedd y peth yn un ochrog, roedd Emma yn gwybod tipyn go lew amdana i, a finnau’n gwybod y nesaf peth i ddim amdani i. Ond [...]