Ysgol Haf Bangor diwrnod 3

Prifysgol Cymru, BangorMae’n ddydd Mercher bellach a dyma drydydd diwrnod yr Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ym Mangor. Roeddwn i’n ofni y byddai’r amser yn mynd yn araf, ond mae’n hedfan heibio. Rhaid cyfaddef fod y cyfarfyddiad gydag Emma Reese wedi gwneud byd o wahaniaeth. Dwi wedi addo cyfarfod â hi amser swper heno er mwyn cael sgwrs.

Os oedd ddoe yn ddiwrnod o ddamcaniaethu ynglŷn â newid ddoe, yna heddiw roedd pobol yn troi eu sylw at yr agwedd ymarferol, sef sut mae rhywun yn arwain newid ac yn ymateb i newid o fewn i sefydliad, neu’n Datblygu Sefydliadau. Cadeiriwyd y diwrnod yn ddeheuig gan Isobel Garner, prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Y siaradwr cyntaf oedd Paul Tarplett o’r Office for Public Managment. Canolbwyntiodd ef ar sut mae sefydliadau yn ymateb i newid trwy ddatblygu ac ar y gwahanol yrwyr sy’n sbardun i newid. Pwysleisiodd dro ar ôl tro fod y ffordd y mae rhywun yn meddwl yn effeithio sut mae rhywun yn gweithredu. Mae’n swnio’n amlwg iawn, ond mae’n hawdd iawn anghofio hynny. Dywedodd fod methiant yn digwydd a’i bod hi’n iawn i fod yn onest am hynny ond ei bod hi’n bosib troi sefydliadau o gwmpas trwy osod sustemau newydd yn eu lle. Mae newid llwyddiannus yn dod o ddatblygu perthynas rhwng pobol â’i gilydd ac o sicrhau fod pobol yn ymddiried yn eu gilydd – yn arbennig felly darparwyr a defnyddwyr ein gwasanaethau cyhoeddus. Yr oedd yn siaradwr da ac yn cyflwyno yn esmwyth.

Wedyn fe gafwyd cyflwyniad gan Jan Parkinson ar ei phrofiad hi o arwain a chynllunio newid o fewn i Gyngor Gateshead. Roedd hi’n dod yn wreiddiol o Fanceinion ac roedd gwrando ar ei chyflwyniad fel gwrando ar rywun o Coronation Street- wel, o leiaf dyna beth oedd yn mynd trwy fy meddwl innau trwy’r peth. Roedd hi’n gweld pedwar peth yn bwysig yn y broses o newid.

    1.Pobl – y rheolwyr a’r gweithlu,
    2.Strwythurau,
    3.Sustemau, a
    4.Syniadau.

Efallai taw ei chyfraniad mwyaf hi oedd dweud ei bod hi’n bosib newid, a bod hynny’n digwydd orau wrth fod wedi’i arwain gan ddamcaniaethau a syniadau. Heb y fframwaith hwnnw roedd hi’n amhosib mynd ati i gynllunio newid yn iawn. Dywedodd fod arweinyddiaeth, sef gweledigaeth a phenderfyniad yr arweinwyr yn holl bwysig, yn holl bwysig yn y gwaith a chawsom ni fanylion am beth oedd wedi’i wneud yn Gateshead.

Wedi cinio fe es i weithdy ar Raglennu niwro-ieithyddol gan Mark Hodder, sef dysgu ffyrdd o gyfathrebu’n well gyda’ch hunan a chydag eraill. Roedd yn dda iawn yn esbonio sut mae’r hyn yr ydym yn ei feddwl go iawn yn cael ei ddangos yn ein hymddygiad, a sut mae rhai pobol yn deall yn weledol yn hytrach nac yn eiriol. Wrth arwain newid neu gyfathrebu felly mae’n rhaid i’r rheolwr fod yn siŵr fod yr hyn mae e neu hi yn ei ddweud yn cael ei ddeall yn y modd y’i bwriadwyd.

Yn olaf cafwyd cyflwyniad campus gan Kathryn Bishop, cymrawd yn Ysgol Fusnes Said a Choleg Templeton, Rhydychen. Ei theitl oedd “Datblygu pobl i dyfu sefydliadau” a’r hyn yr oedd hi’n ei bwysleisio oedd ei bod hi’n bwysig i ddefnyddio yr arddull o reoli a newid a oedd ei angen ar y sefyllfa. Ei bod hi’n bwysig ystyried cyd-destun y newid yn hytrach na dilyn patrwm penodol yn fecanyddol ac fe soniodd am “complex adaptive systems”. Yn y diwedd fe ddaeth i’r casgliad taw dim ond trwy gydweithio y mae newid yn bosib os yw’n digwydd yn organig dros amser neu’n sydyn.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>