Ysgol Haf Bangor diwrnod 2

Yng nghysgod cyfarfod ag Emma Reese doedd ‘na ddim a allai ddigwydd yn yr Ysgol Haf a fyddai’n dod yn agos i gystadlu. Ond dyna lle’r oeddwn i’n anghywir a’r hyn sy’n ddiddorol yw taw siaradwr o’r Taleithiau Unedig oedd hwnnw. Ond cyn i mi fynd ymlaen i sôn am hynny buasai’n well gosod yr olygfa ichi. Thema ail ddiwrnod yr ysgol haf oedd Rhoi newid ar waith gan geisio deall beth yw natur newid o fewn i sefydliad a beth yw’r gwahanol swyddogaethau sydd gan y rheolwr neu’r arweinydd yn hynny. Cadeiriwyd y dydd gan Alison Ward, prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen.

Teitl y cyflwyniad cyntaf oedd “Rhoi newid ar waith, rhoi damcaniaethau ar waith”. Roedd dau yn cyflwyno sef Mike Green a Esther Cameron, awduron y gyfrol Making sense of change management. Fe wnaethon nhw ganolbwyntio i raddau helaeth ar y sgiliau sydd eu hangen i reoli newid. Fe wnaethon nhw hyn wrth gyflwyno pum math o reolwr. Dwi ddim yn mynd i geisio cyfieithu eu teitlau nhw i’r Gymraeg -

  • Edgy catalyser
  • Visionary motivator
  • Measured connector
  • Tenacious implementer
  • Thoughful architect

Ystyr hyn’na i gyd yw bod angen ystod eang o sgiliau i arwain a chyflwyno newid o fewn i sefydliad. Ond roedd pawb yn gytun fod yn rhaid i’r person oedd yn arwain newid fod â sgiliau y Visionary motivator os am lwyddo i gyflwyno newid, oherwydd wrth gyflwyno newid rhaid gwybod beth yw’r diwedd neu’r nod yn y pendraw. Heb wybod hynny does dim llawer o bwynt cychwyn ar y daith yn y lle cyntaf.

Edgar Cahn, Cynhadledd RhNgCC, BangorWedyn fe ddaeth y siaradwr o’r Taleithiau Unedig, Edgar Cahn, llywydd a sylfaenydd TimeBanks USA. Yr oedd ef yn siarad am “Pobl sy’n rhoi newid ar waith – straeon o safbwynt y dinesydd”. Ar yr wyneb yr oedd yno i gyflwyno ei syniad am TimeBanks, sef y gallu i gyfnewid amser gyda phobol. Hynny yw fe all rhywun gynnig cymorth ichi mewn rhyw faes penodol y mae ganddyn nhw sgiliau ynddo ac wedyn yr ydych chi’n cynnig cymorth yn ôl mewn maes arall yr ydych chi’n medru ei wneud. Ond fe all eich bod chi’n chwilio am sgiliau nad oes gan yr un ohonoch ac fe ellid mynd ar rywun arall a chynnig amser i wneud rhywbeth iddo ef os yw e’n fodlon… ac yn y blaen. Ond wrth i’w gyflwyniad fynd yn ei flaen yr oedd yn dod yn amlwg taw’r hyn yr oedd yn ceisio ei wneud oedd ail-adeiladu cymuned gydweithredol lle’r oedd wedi diflannu. Ac ni allai guddio y seiliau radical i’w holl fenter. Yr oedd yn gwneud hyn er mwyn newid cymdeithas er gwell. Roedd hefyd yn herio syniadau am beth yw gwasanaeth cyhoeddus – “You can deliver pizza. You can’t deliver education, health or citizen engagement.” Na, rhywbeth sy’n cael ei gynhyrchu ar y cyd yw gwasanaeth lle mae’r darparwyr a’r defnyddwyr yn cydweithio. Credai fod yn rhaid ail-ddiffinio beth yw gwaith a sefydlu sustem weithredu newydd fyddai’n rhoi pwys ar holl fywyd person – gwaith am dâl a gwaith gwirfoddol. Roedd ganddo syniadau diddorol iawn ac ar y diwedd fe es i gael gair gydag ef a sôn am farddoniaeth Waldo Williams a’i syniadau yntau am gymuned. Fe wnes i wneud hynny am ei fod ef wedi dyfynnu gwaith dau fardd yn ei gyflwyniad ac nid achos bod gen i obsesiwn am Waldo. Roedd yn ddyn oedd wedi cyflawni cymaint a hynny mewn cymaint o feysydd fel welwch chi os edyrchwch ar ei CV. Y mae’n awdur sawl llyfr hefyd gan gynnwys No more throwaway people: the co-production imperative. Dyma beth ddywedodd un adolygydd am y llyfr hwnnw ar Amazon.

People don’t like feeling useless; we all need to feel valued – this is one way in which the market economy is so obviously failing a large proportion of the world’s population, even in the so-called civilised world. Co-Production recognises parity between the parties in any transaction and values the consumer as well as the producer, the receiver as well as the giver. It recognises the need for participation; not for the passive consumer. Co-Production values both the giver and receiver; it values people and their contribution to society and it bridges class and racial divides. It’s about getting people to take responsibility and get involved. It’s about building self-esteem. Cahn likens the non-market economy to a computer operating system describing present attempts to ‘fix’ it with ‘programs’ from the market economy and demonstrates how this is so clearly failing. He examines the strengths and weaknesses of both the market and the non-market economies. Conventional money has a number of downsides for society as a whole, each of which Time Dollars is able to counter. Money rewards our competitive, acquisitive side; Time Dollars rewards our co-operative, altruistic side. Co-Production is about valuing people as they are not how the market economy would like them to be. Cahn argues for a redefinition of work to include non-market activities such as child rearing, community building, care for the elderly.

This book is a must for anyone who is serious about exploring practical, workable alternatives to the market economy. It is a clever combination of economic and political theory and practical examples of how Time Dollars is working to improve the lot of many thousand of people – the elderly, school children, immigrants that the system has previously treated as “throw-away” people. A political lecture? Perhaps. A crusade? Yes, probably. A must for anyone concerned with social justice? Certainly!

Ar ddechrau’r prynhawn fe es i weithdy ar sut y gellid defnyddio dawn adrodd stori i newid eich hun, pobl eraill a sefyllfaoedd/sefydliadau o dan y teitl “Grym arwain ar lafar”. Roedd arweinydd y gweithdy, Moria Morgan, yn wych ac yn medru cyflwyno ei phwnc mewn modd bywiog a pherthnasol.

Roedd dau yn cyflwyno seiswn olaf y prynhawn, sef John Fisher a Martin Rhisiart. Roedden nhw’n edrych ar beth oedd newid, “Newid: y cyflwr sefydlog, y gorffennol, y presennol a’r dyfodol”. Roedd hon yn sesiwn ddwys iawn, yn arbennig rhan Martin Rhisiart ar “Ddyfodolion”, sef y ddawn o ragweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol a’r holl gysyniadau am beth yw’n dyletswydd ni i genedlaethau’r dyfodol. Yn ei gyflwyniad hefyd fe geisiodd nodi rhai o’r prif themâu ar gyfer yr ugain i tri-deg mlynedd sy’n dod, sef cyfnod o newid technoleg, newid hinsawdd, newid economaidd a newid cymdeithasol mawr unwaith eto.

Gyda’r nos roedd ‘na gwis wedi’i drefnu ym mar Ffriddoedd, ond rhaid imi gyfaddef taw i’r gwely yr es i er mwyn bod yn barod ar gyfer bore arall o reoli newid.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>