Clymblaid?

Wedi’r holl disgwyl mae’n edrych yn debygol y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth gyda Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim pwynt imi guddio fy siom gyda’r penderfyniad hyn yn hytrach na dewis yr enfys. Ond does dim pwynt chwaith i mi ac eraill geisio gwyrdroi y penderfyniad os dyna oedd dymuniad y mwyafrif. Ni fyddai’n synhwyrol i orfodi rhywbeth ar gorff sydd wedi dewis dyfodol arall iddo’i hun a’n gwneud ni yn rhyw ail Lib Demiaid. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi dewis bod yn bartner llai yn hytrach nag arwain yn fy siomi yn arbennig. Ond nawr dwi’n edrych ymlaen i weld y ddogfen sydd yn sail i’r cytundeb gan obeithio ei bod yn cynnig y pethau hynny sydd eu hangen ar Gymru gyfan, ac yn arbennig felly y meini hynny sydd eu hangen arnom i adeiladu cenedl. Oherwydd y pris mae cynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol yn bwysicach i mi nawr, ac mae gallu Llafur i ddelifro hynny mewn partneriaeth gyda Phlaid Cymru yn hanfodol. Dwi’n eithaf sgeptigol am hyn fy hunan hefyd oherwydd y peth gwaethaf a allai ddigwydd yw cynnal y refferendwm a cholli. Dwi’n cofio 1979 ac fe allai fod yn ergyd debyg gan rewi unrhyw gynnydd am flynyddoedd a blynyddoedd. Wrth fynd i lywodraeth gyda Llafur mae hynny’n gadael i’r Toriaid fod yn wrthblaid hefyd, a dwi ddim yn edrych ymlaen i hynny chwaith.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Clymblaid?

  • Diolch am dy sylwadau Bratiaith. Dwi’n credu fy mod i wedi bod ychydig yn besamistaidd ac yn negyddol ac mae’n siwr nad oes raid i bethau fod fel yr ydw i yn eu dychmygu. Ydy pethau’n newid? Dwi’n gobeithio ei bod nhw a’m bod i wedi gwneud camgymeriad.

  • Ond yntydi’r rhagolygion o gymreigio’r Plaid Lafur, gwneud rwpeth am broblemau Tai ac yn y blaen yn rwpeth i ddathlu?

    Bydd Cymry y de (hanner y poblogaeth) yn cefnogi Llafur am byth mae’n debyg. Felly os oes cynnydd tuag at mwy o hunan lywodraeth i ddigwydd, mae rhaid dangos mae rhaid ichi ddangos nad ydy Plaid yn bygythiad i hunaniaeth seisnigeiddig y Dde.

    Newyddion arbennig o dda ydy’r clymblaid o safbwynt llusgo’r gwrthgymreig o fewn Llafur ar hyd llwybr tuag at ddatganoli estynedig.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>