Ysgol Haf Bangor diwrnod 1
Agorwyd yr Ysgol Haf am 1.30pm brynhawn Llun gan gyfarwyddwr Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, Dr Neil Wooding. Ychydig o Gymraeg sydd i’w glywed yn sesiynau ffurfiol yr Ysgol Haf, ond agorodd Dr Wooding ei sylwadau yn Gymraeg gan bwysleisio bod croeso i unrhyw un gyfrannu mewn Cymraeg neu Saesneg. Yna fe aeth ati i amlinellu y rhaglen a’r amcanion dysgu ar gyfer yr wythnos. Pwysleisiodd ymarferoldeb yr Ysgol Haf gan ddweud bod disgwyl i’r rhai oedd yn bresennol ddefnyddio’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn eu swyddi o ddydd i ddydd wedi iddynt ddychwelyd i’w gweithleoedd.
Wedyn cafwyd un o gyflwyniadau pwysicaf yr Ysgol Haf mewn ffordd o siarad, sef gorolwg o’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan Richard Davies, cyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad Llywodraeth y Cynulliad. Teitl ei gyflwyniad oedd Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n prysur newid: bod yn rhan o’r ateb. Edrychodd ar natur gwasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol ers yr Ail Ryfel Byd gan bwysleisio ein bod yn byw mewn byd gwahanol iawn i’r byd hanner canrif yn ôl. Ymhlith y pethau pwysig oedd globaleiddio, newid yn y berthynas rhwng cyhoeddus a phreifat, pwyslais ar ddelifro yn hytrach nag egwyddorion, a chymdeithas lle mae llai o barch i awdurdod. Nododd bwysigrwydd adolygiad Syr Jeremy Beecham i sut fyddai gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn newid a phwysleisiodd yr hyn yr oedd ef yn ei weld fel gwahanol bwyslais gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Llundain.
Pwyslais yn y gwasanaeth cyhoeddus
| Lloegr | Cymru |
|---|---|
| Cystadleuaeth | Dinasyddiaeth |
| Dewis | Cymunedau |
| Consumeriaeth | Cydweithredu |
Y siaradwr olaf oedd y newyddiadurwr Richard Reeves. Roedd yn gyflwyniad difyr am y rhan fwyaf o’r amser yn llawn hiwmor ac yn edrych ar beth sy’n gwneud pobol a chenhedloedd yn hapus. Nid arian yw popeth – mae bod yn dlawd yn gwneud pobol yn drist ond unwaith ichi gyrraedd rhyw lefel dyw rhagor o arian ddim yn cael llawer o effaith. Yr hyn sy’n gwneud pobol yn hapus, neu yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fodlon (well-being oedd y term Saesneg a ddefnyddiodd) yw pethau fel teulu, gwaith, cymuned a iechyd. Ef yw awdur y llyfr Happy Mondays: putting the pleasure back into work. Fe siaradodd beth hefyd am hunaniaeth genedlaethol gan dynnu ar ei brofiad ei hun o gael ei fagu yn Lloegr, ond gyda’i fam yn dod o deulu Cymraeg o Feirionnydd a’r tyndra creadigol achosodd hynny o fewn i’w deulu. Ac edrychodd ar sut oedd hi’n bosib tyfu neu greu cymunedau oedd yn agored ac yn gryf ar yr un pryd. Teitl ei sgwrs oedd Arwain newid: rheoli er llwyddiant ac efallai ei fod wedi cyffwrdd â hynny reit ar y diwedd wrth bwysleisio nad oedd pob newid yn mynd i ddigwydd yn llwyddiannus ac roedd yn rhaid i reolwr ddysgu fod methiant yn bosibilrwydd a bod ‘na risg y byddai hynny’n digwydd weithiau.
Ar ddiwedd y dydd fe aeth pawb i grwpiau trafod. Eleni, ar ôl cwyno llynedd, fe drefnwyd rhai yn Gymraeg ac roedd rhyw 20 (allan o 300) wedi dewis trafod yn Gymraeg. Yn ein grwpiau fe gawsom anrheg, sef copi o lyfr John Kotter a Holger Rathgeber, Our iceberg is melting: changing and succeeding under any conditions.
Roedd hi’n 6.00pm arnon ni’n cychwyn yn ôl am safle Ffriddoedd a pharatoi ar gyfer swper am 8.00pm. Wedi swper, rhag ofn inni fynd i wneud rhywbeth na ddylem, roedd ‘na ddifyrrwch wedi’i drefnu yn y bar, sef sioe gonsuriwr. Es i gan ddisgwyl cael fy niflasu – ac roedd ei jôcs yn ddiflas iawn – ond roedd ei driciau yn eithaf clyfar ac fe wnes i fwynhau fy hun. Roedd hi’n 11.00pm arna i’n cyrraedd ‘nôl i f’ystafell i baratoi ar gyfer mynd i’r gwely.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael