Dwi’n ysgrifennu’r blog heno yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Cymru Bangor. Dwi ym Mangor gogyfer ag Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae’r gynhadledd yn para o heddiw tan ddydd Gwener ac mae’n dod â phobl at ei gilydd o bob math o sefydliadau – Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Sifil, Iechyd, Heddlu, Llywodraeth Leol, &c. Ac yn eu plith rydw i. Trefnir yr Ysgol Haf gan sefydliad o’r enw Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Dyma ddatganiad sy’n crynholi beth mae’r corff hwnnw yn ceisio ei wneud.
Mae Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (RhNgCC) yn gweithio tuag at gefnogi rheolwyr ac arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a helpu i feithrin eu gallu.
Mae RhNgCC yn darparu ystod o gyfleoedd sy’n anelu at ddatblygu pobl, sefydliadau a systemau. Y nod cyffredinol yw creu gwell gwasanaethau cyhoeddus a rhai mwy unedig – agwedd allweddol ar Creu’r Cysylltiadau, sef gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Bellach gellid ychwanegu adolygiad Syr Jeremy Beecham, Ar draws ffiniau at Creu’r cysylltiadau fel dogfennau craidd sy’n ymwneud â dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yna ymateb y Llywodraeth, sef Creu’r cysylltiadau : cyflawni ar draws ffiniau : gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Ysgol Haf yn edrych ar rai o’r themau yn yr adroddiadau hyn, ac yn bennaf yr her i newid yn wyneb y newidiadau mewn cymdeithas a llywodraeth. Dyma brif themau ymateb y Llywodraeth i Beecham.
1. Rhoi dinasyddion yn gyntaf
2. Cydweithio er mwyn cyflawni
3. Gweithlu o safon fyd-eang
4. Codi gwerth y bunt Gymreig
5. Hyrwyddo’r newid: Llywodraeth, adnoddau a pherfformiad
Felly y gwaith sydd wedi dod â fi i’r Ysgol Haf a dwi’n gwybod fy mod wedi dweud yn bendant na fyddai byth yn blogio ynglŷn â gwaith, ond mae’n rhaid imi ddweud ychydig o’r hanes gan osgoi dweud dim byd a fyddai’n medru achosi trafferth i mi.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael