Perai yn y newyddion (mewn ffordd o siarad)

Perai Poire GranitNid yn aml y bydd neb yn talu sylw i berai (diod tebyg i seidr ond wedi’i wneud o ellyg) ond yng nghylchgrawn y Guardian heddiw roedd perai yn cael ei adolygu yn yr adran win o dan y pennawd “What to drink with alfresco meals”. Roedd yn wych gweld perai yno yn sefyll ochr yn ochr â gwinoedd. Y perai oedd yn cael ei adolygu oedd cynnyrch y gwneuthurwr Eric Bordelet, sef ei Poiré Granit 2005. Roedd Bordelet yn arfer bod yn arbenigwr gwin yn un o dai bwyta Paris, ond fe bendefynodd ddod yn ôl i fro ei febyd yn Charchigné – plwyf gyda phoblogaeth o lai na 500 – yn sir Mayenne yn agos i ffiniau Llydaw a Normandi sy’n enwog am eu siedr. Mae’r perai hwn ychydig yn well na’r cyffredin. Dyma beth mae Victoria Morre yn dweud yn ei hadolygiad yn y Guardian am berai Brodelet.

Adolygiad perai yn y Guardian, 2007-06-23

Stockists: £9.80, Caves de Pyrene (01483 538820, lescaves.co.uk)
Description: A beautiful perry pear version of cider, and only 3% abv, which when you first take a sip tastes like a drippingly ripe, fresh pear, then seems magically to swell almost to explosion point, taking on a slightly caramelised taste.
Drink it with: Hearty stuff: pork pies; cold sausages; mature cheddar; blue Stilton; game pie.
Score: 4/5

Er gwaethaf popeth dwi’n ei feddwl am gwmni J D Wetherspoon sydd â’r gadwyn enfawr o fariau ar hyd a lled y wladwriaeth maen nhw i’w canmol am gadw perai go iawn. Dyna’r unig fan yn Aberystwyth lle mae’n bosib prynu perai mewn bar, ac yn well na hynny mae’n berai o swydd Henffordd gan gwmni Westons.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>