Ffansi sedd yn y cabinet?
Os oes gen ti’r dalent mae ‘na le i ti yn y cabinet – ai dyna’r neges, ai dyna fydd ffordd Gordon Brown o wneud pethau? Neu’n hytrach, ai Llafur sy’n ceisio cael eu hunain i sefyllfa lle allan nhw gadw rheolaeth o ryw fath, os nad rheolaeth lwyr, yn Llundain a Chaerdydd ac efallai hyd yn oed ail afael yng Nghaeredin yw? Yn bendant wrth gynnig lle yn y cabinet i Paddy Ashdown mae Brown wedi rhoi ei imprimatur ar glymbleidio gyda’r Dem Rhyddiaid. ac felly nid yw’n syndod clywed fod aelodau seneddol Llafur o Gymru yn dweud wrth Rhodri Morgan i fynd i glymblaid gyda’r Dem Rhyddiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol a pheidio â gwneud dim gyda Phlaid Cymru. I mi mae’n ddiddorol iawn fod Rhodri Morgan yn mynd i Lundain yn gyson i gael gwybod beth ddylai wneud! O safbwynt Plaid Cymru mae’n ymddangos y gallen nhw fod heb ddim ar ddiwedd y dydd. Er y gallai hyn olygu y byddai’r Dem Rhyddiaid mewn llywodraeth dwi’n credu y bydd eu holl fanŵfrio (ynteu, igam-ogamu) gwleidyddol yn ddrwg i Dem Rhyddiaid yn y diwedd. Dwi ddim yn siŵr faint o les fydd i Blaid Cymru chwaith. A’r Torïaid? Does neb am wneud dim byd gyda nhw o hyd, dim ond pan mae’n fater o raid. Diolch byth bod rhai pethau mewn bywyd yn aros yr un fath.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael