Mae’r pleidleisio wedi dod i ben yn yr arolwg diweddaraf o farn darllenwyr Blog Dogfael ac nid yw’n syndod taw hoff grŵp y rhai wnaeth bleidleisio oedd Edward H. Dafis. Dwi wedi synnu nad oedd neb wedi pleidleisio dros Eliffant na’r Trwynau Coch, ond mae’n amlwg ei bod hi’n agos a bod eu pleidleisiau hwy wedi cael eu gwasgu. Dwi’n ei chael hi’n anodd iawn i ddewis rhwng y pump gan fod pob un o’r grwpiau wedi cael rhyw ddylanwad ar fy mywyd i. Petai rhywun wedi fy holi i yn ôl yn 1976 ni fuasai unrhyw amheuaeth o gwbwl gen i taw Edward H oedd y gorau a dwi’n dal i ddwlu ar rai o’u caneuon – yn rhyfedd ddigon un o’u caneuon cynnar oddi ar y record Hen ffordd Gymreig o fyw yw’r un dwi’n troi ‘nôl ati’n gyson, sef Derwen-gam, er mae rhai o’u hanthemau roc yn dal i fy nghyffroi. Wrth dyfu’n hŷn rydw i wedi dod i werthfawrogi Hergest, Ac Eraill ac Eliffant yn fwy, yr oedd eu cerddoriaeth yn rhy ’soffistigedig’ i rywun yn ei arddegau oedd wedi mopio’i ben gyda cherddoriaeth pync. Er bod ambell i gân wych gan y Trwynau Coch maen nhw’n perthyn i’w cyfnod yn debyg i Edward H. Roeddwn i fy hunan yn hŷn pan ryddhawyd Hen wlad fy nhadau yn 1978, ac fel myfyriwr roedd y sŵn a’r neges yn apelio’n fawr iawn ata i. Felly er ei fod yn swino’n ychydig yn debyg i frad, Geraint Jarman ac nid Edward H sy’n cael fy mhleidlais i. Dyma’r canlyniadau.
Hoff grŵp y 1970au
| Grŵp | Pleidlais |
|---|---|
| Edward H Dafis | 9 |
| Hergest | 8 |
| Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr | 6 |
| Ac Eraill | 4 |
| Eliffant | 0 |
| Y Trwynau Coch | 0 |
Wrth i wyliau’r haf ddod yn nes, ac wrth i ddarllenwyr Blog Dogfael gael eu denu i dreulio eu gwyliau ym mhedwar ban byd, dwi am ddod â chi yn nes adref wrth ofyn pa dref glan-y-môr yng Nghymru yw eich hoff un. Anghofiwch am Iguazu, Machu Pichu, Mahattan, Uluru, y Pyramidiau, &c. a dywedwch ble yng Nghymru yr hoffech chi dreulio peth amser dros yr haf.



(5 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.60 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael