Ces i fy nghyffroi cymaint y bore ‘ma fel fy mod i wedi methu wilibowan yn y gwely cyn codi. Yr hyn oedd wedi cael y fath effaith arna i oedd clywed fod dyddiad wedi’i osod o’r diwedd ar gyfer lansio y papur newydd Cymraeg Y Byd. Yn ddiweddarach dyma glywed y newyddion o enau Ned Thomas ei hun taw’r dyddiad hwnnw fydd 3 Mawrth 2008. Mae’r newyddion hwn yn newyddion cyffroes a dwi’n edrych ymlaen i’w weld a’i ddarllen. Yng Nghymru yn enwedig mae angen cyfrwng arall ar gyfer derbyn newyddion yn Gymraeg oherwydd fel y mae ar hyn o bryd yr ydym yn ddibynnol ar y BBC bron yn gyfangwbl – S4C, Radio Cymru, a’r rhyngrwyd. Nawr dyw hynny ddim cynddrwg ag y gallai fod, ond y mae bod â ffynhonnell wahanol o newyddion, a honno’n un an-Llundeinig a gwahanol yn beth da iawn. Nid fy mod i’n disgwyl agenda newyddion fydd yn gwbl hollol wahanol i’r BBC ond mae angen cael rhyw fath o newid arnon ni; mae’n debyg y byddai rhai pobol yn ei alw yn ddewis. Ond mae ‘na risg yn hyn i gyd, yn arbennig felly mewn creu papur newydd ar bapur pan fo’r oes yn un sy’n gweld cynifer yn troi’n gyson i gyfryngau eraill am newyddion, ac yn arbennig felly at y rhyngrwyd. Mae’n dda gweld bod cynlluniau gan Y Byd ar gyfer hynny, ond mae’n dal yn risg. Dwi ddim wedi tanysgrifio eto ond bydd yn rhaid imi wneud cyn bo hir.


(2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Hollol cytuno, mae yna angen rhywbeth newydd, a mi fydd yr Byd yn cyflenwi yr gap, ond yn fy marn i, i’r ddiniwed yr Cymro.