Mae’r adeg y bydd hi’n rhaid i Blaid Cymru benderfynu beth maen nhw am ei wneud ynglŷn â chlymbleidiol yn dod yn nes. Ond mae’r gêm hefyd yn mynd yn fwy caled a chyfrwys. Yn y pendraw efallai nad Plaid Cymru fydd yn penderfynu o gwbwl gan fy mod yn siŵr imi glywed fod Mike German yn ôl yn siarad gyda Rhodri Morgan unwaith eto. Os yw hynny’n wir mae’n amlwg fod strategaeth Llafur o ‘negodi’ gyda Phlaid Cymru er mwyn tynnu’r Lib Dems yn ôl atyn nhw wedi gweithio. Wrth oedi am wythnos neu ddwy yn rhagor cyn dweud un ffordd neu’r llall mae’n bosib y bydd y sefyllfa wedi newid yn llwyr gan adael Ieuan Wyn Jones heb ddim i’w gynnig i neb.
Nawr dwi’n gwybod na fyddai rhai ym Mhlaid Cymru yn colli gormod o ddagrau dros hynny – mae eu purdeb gwleidyddol neu eu diffyg hyder yn golygu eu bod yn well ganddynt ddewis bod yn wrthblaid “o ran egwyddor” yn hytrach na bod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Dwi’n deall yr ofn a’r ansicrwydd i raddau, mae’r cysyniad o fod yn llywodraethu yn un cwbl newydd i wleidyddion y blaid gan taw gwrthblaid yw’r unig beth yr oedd hi’n bosib iddi fod o fewn cyd-destun Prydeinig. Ond mae’r cyfle i fod yn rhan o lywodraeth ein gwlad yn un na ddylid ei daflu bant. Does neb yn gwybod beth all ddigwydd yn y dyfodol, mae’n rhaid gweithio gyda beth sy’n bosib ei wneud heddiw. Rhaid bod yn ofalus, rhaid sefydlu’r glymblaid yn ymwybodol o beth sy’n digwydd a beth allai’r canlyniadau fod. Ond ddim ar unrhyw gyfrif y dylen ni droi cefn ar ein cyfrifoldeb.
Dwi’n gwybod ei bod hi’n gwbl bosib na fydd dewis yn hyn i gyd oherwydd bod y Lib Dems wedi penderfynu drosom ni. Ond yn bersonol dwi’n ffafrio ffurfio cytundeb gyda’r ddwy wrthblaid i greu’r hyn sy’n cael ei alw yn llywodraeth ‘enfys’ gan fy mod i’n credu ei bod hi’n well arwain ac felly bod â mwy o allu i reoli’r sefyllfa. Ond os nad yw hynny’n bosib yna fe ddylen ni ystyried llywodraeth ‘coch-gwyrdd’ Rhaid i’r cytundebau fod yn dderbyniol, rhaid cydnabod fod problemau gyda’r ddau ddewis. Ond problemau bod mewn llywodraeth fyddan nhw, nid problemau pobol sydd ond yn eistedd ar yr ochrau yn edrych ar bobol eraill yn gwneud pethau. Rhaid i ni ddechrau gwneud rhywbryd, ac mae’r cyfle wedi dod nawr. Rhaid cymryd y cyfle neu efallai na fydd unrhyw ddewis ar ôl!



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael