Dyma un o fy hoff ffotograffau o fy mam. Fe’i tynnwyd rhywbryd yn 1951 pan roedd fy mam yn gweithio yn Llundain. Gyda fy mam yn y llun mae ei dwy chwaer: fy mam sydd ar y dde, ar y chwith mae Edna, ac yn y canol Martha Mary. Roedd y tair ohonyn nhw wedi gadael Mynachlog-ddu i weithio yn Llundain ddiwedd y 1940au. Cyn hynny roedd fy mam wedi bod yn gweithio fel morwyn ar fferm. Daeth fy mam yn ôl i Sir Benfro i fyw a dyna sy’n esbonio pam rydw i fel ydw i!
Ni ddychwelodd y ddwy chwaer arall fodd bynnag. Yn hytrach fe briododd y ddwy bobo Lundeiniwr ac allfudo i’r Taleithiau Unedig. Roedd gŵr fy Anti Edna, Ronnie Moss, yn gweithio i gwmni DuPont, y cwmni a wnaeth ddyfeisio Teflon a Lycra – dyna sy’n esbonio’r Rolls Royce roedd e’n gyrru o gwmpas Mynachlog-ddu pan fyddai Edna yn dod i ymweld â ni fel teulu. Yn drist iawn bu farw Edna yn 1968 ac fe gollwyd cysylltiad gyda Ronnie. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedden nhw’n byw yn Wilmington, Delaware, lle’r oedd prif ganolfan cwmni DuPont. Priododd fy Anti Martha â Robert (neu, Bob) Churn a symud i fwy yn yr un ddinas. Dwi ddim yn gwybod beth oedd ei swydd yntau pan briodon nhw, ond pan dwi’n cofio roedd e’n gweithio fel masseur yng nghanolfan yr YMCA yn Wilmington. Roedd Anti Martha yn gweithio fel gweithredydd teliffonau. Doedd ganddyn nhw ddim plant chwaith.
Roedd gan fy Anti Martha galon wan a doedd hi ddim yn cael hedfan. Y tro diwethaf iddi ddod yn ôl i Gymru oedd yn 1972. Ond yn 1976 neu 1977 fe ddaeth ei gŵr yn ôl i Gymru ac fe es i aros yn Llundain gydag e am wythnos. Dyna pryd es i weld Ian McKellan a Judi Dench yn actio ym Macbeth o dan gyfarwyddyd Trevor Nunn a syrthio mewn cariad gyda’r ‘theatre’.
Roedd Bob wedi dod yn yn ôl i weld ei fam, a hynny am yr ail dro yn unig ers iddo allfudo i’r Taleithiau Unedig yn y 1950au. Roedd ei dad yn frwnt wrth ei fam ac yntau – allfudo oedd ateb Bob, ac yn y diwedd fe wnaeth ei fam adael ei dad. Yr unig broblem oedd eu bod nhw’n Babyddion ac roedd tor-priodas yn gywilydd o beth yn yr oes honno. Ni chafodd ysgariad ond fe ddaeth hi o hyd i bartner newydd, Barney. Ond wedyn roedd ganddi ormod o gywilydd i ddweud wrth Bob amdano fe. Ond ar yr ymweliad hwn fe ddaeth y cymodi a’r dagrau o dristwch a llawenydd. Ac fe ges i fel dyn ifanc fod yn dyst i hyn i gyd. Doeddwn i erioed o’r blaen wedi profi’r fath emosiwn. Dwi’n cofio’r pedwar ohonom ni – Bob, fi, mam Bob a Barney – yn eistedd yn siarad am yn agos i bum awr. Dim ond gwrando a wnes i, ond fe ddysgais yr holl hanes am bopeth oedd wedi digwydd ers iddo adael cartref a pham ei fod wedi gadael cartref yn y lle cyntaf. Mae’r cyfan yn dal i fod yn fyw iawn yn fy nghof. Yr unig beth dwi’n methu ei gofio ar hyn o bryd yw beth oedd enw mam Bob. Roedden nhw’n byw yn Waldo Road, Fulham; dyna’r ardal lle’r oedd fy mam a’i chwiorydd wedi byw pan ddaethon nhw i Lundain yn y 1950au.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael