
Un peth arall diddorol wnes i ddarllen yn yr Indpendent, ond mae’n siŵr fod yr hanes ym mhob papur a chyfrwng arall gan ei fod mor hynod o ddifyr. A’r hanes hwnnw yw bwriad tref yn y Taleithiau Unedig i weithredu deddf yn gwahardd pobol rhag dangos eu dillad isaf yn gyhoeddus. Yn ôl y stori mae maer Delcambre yn Louisiana yn bwriadu arwyddo’r ddeddf yn fuan.
Deep in Cajun country, the mayor of the Louisiana town of Delcambre is about to sign into law a proposal that will make it a crime to wear trousers that show underwear. “If you expose your private parts, you’ll get a fine [of up to $500 (£250)],” Mayor Carol Broussard said. Repeat offenders could land themselves a six-month stretch in jail.
Nawr, dwi ddim am ymddangos fel hen ffôgi nac adweithiwr ond mae gen i ychydig o gydymdeimlad gyda’r bwriad ac am y tro cyntaf dwi’n gwybod beth yw’r ffordd o ddisgrifio’r arfer o wisgo trowseri mor isel fel bod eich pans yn dangos – maen nhw’n ’sagging trousers’ neu’n ‘low-riding trousers’ neu hyd yn oed yn ‘baggy trousers’ yn Saesneg. (Bydd yn rhaid aros hyd nes bod Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn am bwerau deddfu yn y maes i wybod beth fydd y term swyddogol Cymraeg, a hynny diolch i wasanaeth cyfieithu’r Cynulliad). Rhaid imi gyfaddef os ydych chi o ryw oed arbennig gallai’r arfer eich gyrru’n benwan, ond wrth gwrs does dim y gallwn ni ei wneud amdano. A nac ydw, dwi ddim yn credu bod angen deddf i’w wahardd er gwaetha’r ffaith fy mod yn tueddu tuag at lywodraeth glymblaid enfys i Gymru dwi ddim wedi troi yn ddarllenydd Dail mail eto.
Yn ddiddorol iawn roedd seneddwr Democrataidd yn senedd Florida wedi cael syniad tebyg. Ac roedd ‘na ymgais i gael mesur o’r fath yn nhalaith Virginia hefyd. Efallai fod ‘na filoedd o bobol tebyg i fi mas ‘na yn rhywle! Mae’n rhaid ei fod yn ofid i bobl y Taleithiau Unedig oherwydd fe ddois i ar draws gri yma am gymorth ar wefan rhieni myfyrwyr yn University of California Berkley.
My son is a 7th grader at a Berkeley public school. He is a normal kid and follows fashion i.e. he wears his pants very low. In fact, very VERY low. His dad and I, harking back to our own sartorial statements in middle and high school have been pretty cool about it but it’s getting harder. The pants now seem to be bordering on the obscene. How are other parents dealing with low slung trousers? Help!
Mae’n amlwg fod gofid rhieni yn wahanol iawn heddiw i’r hyn oedd yn 1960au pan roedd Berkley yn grochan chwyldro… a wedyn mae rhywun yn dweud wrtha i mae mater o hiliaeth sy’n gyrru hyn i gyd yn y Taleithiau Unedig. Dwi ddim yn siŵr beth dwi’n meddwl bellach.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae crogi yn rhy dda iddyn nhw.
Nage, nid dim ond ti yw e; dyma’r arfer ffasiwn sy wedi profi mod i wedi ymuno â rhengoedd yr henoed hefyd. Dyw e ddim cymaint bod y peth yn offensif i’m delicate sensibilities, ond ei fod yn edrych mor anghyfforddus, ac yn anymarferol.
Dyn ni i gyd wedi wneud camgymeriadau ffasiwn yn ein hamser, cofia.