Dilyn y glaw

Llif yn y BorthFe ddes i adref yn ddiogel o Swydd Efrog neithiwr, ond yn ôl a ddeallaf i roeddwn i wedi bod yno ar adeg un o’r stormydd glaw gwaethaf mae’r ardal honno wedi’i gweld ers blynyddoedd. Galla i gredu hynny’n ddigon hawdd. Yn ogystal â glaw roedd ‘na niwl hefyd. Ar y cyfan mae’n ymddangos ein bod ni wedi llwyddo i osgoi’r gwaethaf – roedd hwnnw un ai’n mynd o’n blaenau neu’r dilyn o’n holau. Dim ond mewn un man y gwnaeth y glaw, neu ei ganlyniadau, ein hatal a hynny’n weddol agos i adref yn y Borth. Roedd un o’r cwmni yn byw yno ac roedden ni’n mynd i fynd â hi adref. Dyma droi am y Borth yn Tre’r-ddôl ac wrth inni ddod yn agos at y cwrs golff yn y Borth sylwon ni ar arwydd bach di-nod yn dweud fod y ffordd ar gau. Ac yn wir roedd ‘na lifogydd yno. Wrth edrych arno roedd yn ymddangos yn weddol ddiniwed, ond dyma ni’n oedi a gadael i gerbyd (4×40 arall fynd trwyddo a dyna pryd sylweddolon ni nad oedd hi’n werth cymryd y risg!

Rhagor o luniau o’r llifogydd yn y Borth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>