Glaw yn Lloegr
Dwi’n ysgrifennu’r blog heddiw o ystafell ddarllen y Llyfrgell Brydeinig yn Boston Spa, gogledd Lloegr. Y gwaith sydd wedi dod â fi yma, ond dwi’n rhydd am awr tra bod y sawl sy’n rhoi lifft ‘nôl i mi i Aberystwyth yn cael cyfarfod arall. Mae’r lle hwn yn rhyfeddol. Ar ganol ystad ddiwydiannol ar gyrion pentref yng nghefn gwlad Lloegr ceir un o lyfrgelloedd mwya’r wlad. O ran nifer defnyddwyr, heddiw mae’n gwneud i lyfrgell gyhoeddus fechan mewn pentref glan môr yng Ngheredigion ymddangos yn brysur. Ond efallai taw’r rheswm dros hynny yw ei bod hi wedi bwrw glaw yn ddi-baid ers imi gyrraedd yma neithiwr. Bore ‘ma wrth deithio o’r gwesty i’r llyfrgell roedd yn rhaid mynd trwy dau lif dŵr eithaf dwfn. Roedd y bysus yn ninas Efrog wedi rhoi’r gorau i deithio a dwi’n clywed fod y rheilffordd rhwng Birmingham a Wolverhampton o dan ddŵr hefyd. Dwi’n gallu dychmygu fy hun yn gofyn “Is this typical English weather?” i rywun cyn diwedd y dydd heddiw os na fydd hi wedi llacio rhyw ychydig. Mae yn fy nharo i’n fwy fwy fod Lloegr mor wahanol i Gymru a bod y gwahaniaethau yn tyfu. Wyddoch chi fod pobol yn cael ysmygu mewn bariau yn Lloegr a hynny heb deimlo unrhyw gywilydd am y peth o gwbwl! A dwi ddim wedi gweld glaw fel hyn ers blynyddoedd yn yr hen Walia wen. Mae llawer i’w ddweud dros ddatganoli.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael