Mae’n anodd dal lan gyda beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd y dyddiau hyn. Mae’n fwy anodd byth deall y pethau hynny pan ych chi’n gwylio’r cyfan o bellter Aberystwyth. Dwi’n credu fod rhyw fath o gêm yn digwydd gyda phawb yn gwthio’i gilydd i weld pa mor bell mae pawb yn medru neu’n fodlon mynd. Ond mae un peth yn amlwg iawn mae Llafur yn gwbl despret i gadw’u dwylo ar bwer a dwi ddim yn eu beio nhw am wneud – oni fyddai pawb yn ceisio gwneud yr un peth?
Wythnos yn ôl fe fues i yng nghynhadledd fy undeb llafur, Prospect – un o undebau llafur y gwasanaeth sifil a sefydliadau cyslltiedig. Doedd y syniad o roi’r Torïaid yn ôl mewn llywodraeth ddim yn apelio at nifer o’r cyfeillion yno; ond pwy fyddai’n disgwyl hynny ‘ta beth. Ond fe wnes ymgais at amddiffyn beth allai ddigwydd, ac yn achos Plaid Cymru dwi’n dal i feddwl bod arwain llywodraeth eich hunan yn well na chael eich arwain gan rywun arall.
Dwi’n ofni dros yr wyth mlynedd ers i’r Blaid Lafur fod yn Llywodraeth y Cynulliad yr ydym wedi gweld diffyg gweledigaeth a gwreiddioldeb oddi wrth ei harweinwyr a dwi ddim am weld Plaid Cymru yn cael eu tynnu i mewn i’r gors honno.
Pan etholwyd Rhodri Morgan yn brif weinidog yr oeddwn i’n disgwyl pethau mawr ganddo. Yr oedd wedi herio’r drefn ac wedi llwyddo; yr oedd ganddo’r mandad i fynd ati i agor ei gwys ei hun. Ond beth ddigwyddodd? Llaw drom Tony Blair yn parlysu popeth. Rydyn ni’n gwybod nad yw Rhodri Morgan y cytuno gydag agenda Llafur Newydd ar lawer cyfrif, ond er mwyn cynnal undod y Blaid Lafur fe benderfynodd nad oedd am wneud ffys am y peth yn gyhoeddus. Dwi’n credu fod hynny wedi arwain at ddiflastod ar ei ran ef, a bod hynny wedi’i adlewyrchu yn ngweithgaredd, neu ddiffyg gweithgaredd, Llwyodraeth y Cynulliad dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Dros y cyfnod hwnnw mae wedi dod yn fwyfwy eglur i bawb sydda g unrhyw synnwyr cymaint o ffolineb bu’r ymyrraeth filwrol yn Irác. Er bod rhai aelodau Llafur wedi ceisio amddiffyn hynny, mae’n amlwg taw agwedd sgeptigol fu un Rhodri Morgan, er nad oedd yn medru dweud hynny mewn geiriau. Roedd methu dweud beth oedd e am ddweud yn hunan-sensoriaeth, ac wrth gwrs does dim byd yn waeth na hunan-sensoriaeth i dorri ysbryd neb.
Y Blaid Lafur oedd plaid y gweithiwr; newidiodd hynny’n llwyr o dan arweinyddiaeth Tony Blair. Cylfawnwyd llawer o blaid y gweithwyr ers 1997 – yn arbennig eglwyddor yr isafswn cyflog – ond canfyddiad cyffredin o’r llywodraeth Lafur bresennol yw bod ganddi fwy o ddiddordeb mewn super casinos a pherthynas glòs gyda busnesau mawrion rhyngwladol sy’n allforio eu helw er mwyn osgoi talu trethi na’r gweithiwr cyffredin. A fydd pethau’n newid gyda Gordon Brown wrth y llyw? Am ryw reswm wrth baratoi i gymryd yr awennau mae ef wedi bod yn gwneud llawer o synau sy’n debyg i Lafur Newydd. Yn draddodiadol disgwyliwyd gwell gan Lafur na’r hyn sydd wedi’i ddelifro hyd yn hyn. A fydd Gordon Brown ynnewid hynny? Does neb yn disgwyl dim gan y Torïaid, felly does neb i’w siomi, mewn ffordd o siarad!

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael