Thomas Cook eto

Cymdeithas yr Iaith GymraegMae’r ymgyrch i gael cwmni Thomas Cook i newid eu polisi iaith yn dal i fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener nesaf, 15 Mehefin 2007, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu fas i siop y cwmni ym Mangor. Os nad wyt ti’n siwr ble mae’r siop dylai’r map hwn fod o help. Dyma beth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei ddweud.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda’r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor. Dywed Is-gadeirydd Cyfathrebu’r Gymdeithas, Hedd Gwynfor:

“Dyw Cymdeithas yr Iaith ddim yn gweld gwerth yn natganiad sarhaus Thomas Cook na byddant yn cosbi gweithwyr am siarad Cymraeg er eu bod yn dal i ofyn iddynt beidio a defnyddio’r iaith. Mae’n amlwg fod y cwmni’n ceisio osgoi cael eu herlyn o dan y Ddeddf Perthnasau Hiliol, a chredwn ei bod yn warthus fod Bwrdd yr Iaith yn galw hyn ‘yn gam ymlaen’.”

“Byddwn yn cynnal protest tu allan i’w siop ym Mangor am 1pm Dydd Gwener er mwyn annog y cyhoedd i’w cosbi trwy beidio a rhoi busnes iddyn nhw. Dyna fydd yn cael effaith ar gwmni o’r fath yn hytrach na phaned o de gyda Bwrdd yr Iaith. Yr unig ateb yn y pendraw wrth gwrs yw Deddf Iaith Newydd.”

Yr hyn sy’n drist mewn ffordd yn ystod yr holl sŵn yw’r diffyg sioc a syndod fod y fath beth yn digwydd yn y lle cyntaf. Dyma’r fath o beth yr ydyn ni wedi byw gydag ef, ac rydyn ni’n disgwyl i’r fath hyn o beth ddigwydd. Fel y bu’n rhaid i gadeirydd y Bwrdd Iaith ei gyfaddef echdoe, does gan siaradwyr Cymraeg ddim hawliau y gellir mynnu arnynt a’u gorfodi yn gyfreithiol. O leia yr ydyn ni wedi cael blynyddoedd ar flynyddoedd o ymarfer ar sut i ymdopi â sefyllfaoedd o’r fath – rydyn ni’n siŵr o oroesi’r storm hon hefyd.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Thomas Cook eto

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>