Achos Thomas Cook
Bues i bron â thagu dros fy nghreision ŷd y bore ‘ma. Yr oeddwn i’n gwrando ar newyddion Radio Cymru am 7.00am ac roedd ‘na gyfweliad gyda Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y rheswm dros gynnal cyfweliad gyda chadeirydd y Bwrdd oedd achos cwmni Thomas Cook yn gwahardd aelodau o staff rhag trafod busnes y cwmni yn Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r cwmni wedi datgan taw dim ond yn Saesneg y mae’n bosib i staff drafod busnes – ac mae hynny’n cynnwys canghennau fel Bangor ac Aberteifi, ac unrhyw le arall yng Nghymru. Fel y gellid disgwyl mae hynny wedi achosi tipyn o gyffyffl i ddweud y lleia. Yr hyn a wnaeth imi dagu oedd un sylw gan Meri Huws – roedd hi’n llawn cydymdeimlad gyda’r gweithwyr, yn gresynu at bolisi y cwmni, yn condemnio’r polisi hwnnw. Ond yna fe ddaeth y cwestiwn am beth oedd y pwerau oedd gan y Bwrdd o dan Ddeddf Iaith 1993 i wneud rhywbeth am y sefyllfa. Roedd yn rhaid iddi ateb yn blwmp ac yn blaen nad oedd dim byd y gallai’r Bwrdd ei wneud. Pan ofynnwyd iddi wedyn a oedd angen deddf newydd i ddelio gyda sefyllfaoedd o’r fath doedd ei hateb ddim yn rhyw eglur iawn. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn dadlau nad oes angen deddf iaith newydd ac eto mae’n amlwg fod pwerau presennol y Bwrdd i wneud rhywbeth y nesa peth at ddim. Ble arall yn y byd y buasai hyn yn digwydd gyda chwmni mor wynebgaled yn eu gweithredu? Mae Thomas Cook wedi esbonio taw’r Saesneg yw’r iaith ryngwladol a bod disgwyl i holl fusnes y cwmni gael ei drin a’i drafod yn yr iaith honno. Mae’n amlwg y bydd gan Thomas Cook lawer iawn o femoranda i’w hanfon at eu cynrychiolwyr yn yr holl wledydd hynny ar draws y byd lle maen nhw’n anfon eu teithwyr!
Os wyt ti’n teimlo’n ddig am hyn fe elli di roi gwybod i Thomas Cook beth rwyt ti’n ei feddwl – dyma’r cyfeiriad e-bost, customer.relations@thomascook.com.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael