Diolch i bob un ohonoch chi (17 i gyd, ond rhai yn pleidleisio fwy nag unwaith) a bleidleisiodd ar bwnc Llyfr y flwyddyn. Dyma’r canlyniadau.
Dygwyl eneidiau – 2
Ffydd, gobaith, cariad – 7
Un bywyd o blith nifer – 10
Felly cofiant Robin Chapman i Saunders Lewis sydd wedi ennill y bleidlais ar Flog Dogfael. Tybed a fydd beirniaid swyddogol y gystadleuaeth yn cytuno gyda hynny? Cawn weld y mis nesaf.
Efallai eich bod wedi sylwi yn barod fy mod yn holi’r cwestiwn newydd heddiw. Mae hwn yn un tyngedfennol ynglŷn â pha ddiwrnod yw hoff ddiwrnod darllenwyr Blog Dogfael. Felly beth am fynd ati i bleidleisio a sicrhau fod eich hoff ddiwrnod chi yn ennill. I’r rhai ohonoch chi sy’n methu’n deg â phenderfynu rhwng un diwrnod â’r llall gallwch bleidleisio am y saith os ydych chi am wneud. Bydda i’n cyhoeddi’r canlyniadau pan fydd y pleidleisio yn cau ymhen wythnos.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael