Fi a’r fferet o dan y Landsker

Middlepool, PentywynAr un adeg roedd lluniau o’r awyr o’ch cartref yn beth ffasiynol iawn ac yn aml iawn buasai pobol yn eu danfon at ei gilydd fel cardiau cyfarch. Anfonwyd y llun hwn o fferm Middlepool, Pentywyn atom ni gan fy modryb, Anti Lil a’i gŵr, Wncwl George. Dwi’n credu ei fod yn dyddio o ganol y 1960au. Am ychydig flynyddoedd ddiwedd y 1960au buaswn i’n mynd i aros gyda fy modryb ym Middlepool am ryw wythnos yn ystod gwyliau’r haf. Roedd yn brofiad rhyfedd oherwydd roedd Middlepool o dan y Landsker (yn Sir Gaerfyrddin) a Saesneg siaradai pawb yno, heblaw am fy Anti Lil. Dwi’n cofio’r gwyliau hynny nawr gyda lot fawr o hiraeth. Doedd neb fel petaen nhw’n poeni rhyw lawer beth roeddwn i’n ei wneud. Roedd gan Lil a George ddau fab, Huw ac Alan, ac fu fusen i’n mynd gyda’m cefnderwyr i lawr i’r traeth ym Mhentywyn. Roedd hynny yn y dyddiau cyn i dwristiaeth droi yn ddiwydiant, ond roedd yn bodoli ond fel rhyw weithgaredd amaturaidd braidd. Ym Middlepool y cefais un o brofiadau anhapusaf fy mywyd pan gefais fy nghnoi gan fferet. Roedd y fferet yn gwrthod gadael mynd ac yn y diwedd bu’n rhaid i Wncwl George ei bwrw yn galed iawn. Doedd yr holl beth ddim yn neis. Am ryw reswm wedi hynny ddigwydd es i byth ‘nôl i Middlepool i dreulio wythnos yn yr haf. Wrth imi adrodd yr hanes nawr dwi’n sylweddoli ei fod yn swnio’n debyg i’r fath o beth yr oedd Dylan Thomas yn ei wneud!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>