Edrych i mewn i’m llygaid fy hun

Fi gyda fy mam a'm tadDyma un arall o’r ffotograffau hynny sydd wedi fy nilyn trwy fy mywyd. Tynnwyd y llun mewn stiwdio yn Aberteifi fis Awst 1961 (dwi’n credu) i nodi fy mhen blwydd – roeddwn i’n un flwydd oed ar y pryd. Dwi’n cofio edrych ar y llun hwn droeon gyda fy mam ac fe fyddai hi wastad yn adrodd yr hanes amdana i yn gwrthod bod yn llonydd a taw’r unig ffordd y gellid fy ngwneud i eistedd yno’n dawel oedd rhoi ei phwrs arian imi chwarae gydag e. Yr hyn sy’n nharo i am y llun hwn pan dwi’n edrych arno yw’r ffordd y mae llygaid pob un yn edrych i mewn i’r camera ac o’r herwydd yn edrych yn syth i mewn i lygaid y syllwr. Rydyn ni’n ei wneud pob tro yr ydym yn edrych ar ffotograff o ni’n hunain, ond mae edrych i mewn i fy llygaid fy hun yn un flwydd oed yn brofiad rhyfedd. Dim ond wrth edrych ar ffotograff y gall hynny ddigwydd.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Edrych i mewn i’m llygaid fy hun

  • Dafydd

    Y Llun

    Os daw rhyw wên am ennyd, o ddewis,
    gan ddoe sy’n dychwelyd
    a gwep sy’n gelwydd i gyd,
    nefoedd yw’r dagrau hefyd.

  • Mae gen i lun tebyg Dogfael, wedi ei dynnu mewn stiwdio yn Ninbych, ym 1960. Mae’n dangos fy chwaer a finna. Dwi’n cofio mam yn dweud fod y ffotograffydd wedi cael trafferth ein cadw’n llonydd, ac wedi rhoi tegan yr un er mwyn ein cadw ni’n ddistaw. Mae ‘na liw arbennig i’r llun hefyd , a dwi’n weddol siwr fod gennym golur!
    Diolch am rannu….

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>