Ffotograff o briodas fy rhieni

Priodas fy rhieni

Mae ffotograffau yn bwerus. Mae pob ffotograff yn rhewi amser, ond fel arfer dyw hynny ddim yn bwysig, Fel arfer, does dim ots os gafodd llun ei dynnu ddwy awr, dau ddiwrnod, neu ddeufis yn ôl. Ond gyda rhai lluniau mae’n gwneud byd o wahaniaeth. Ffotograff fel ‘na yw hwn. Dwi’n siŵr fod ffotograffau o’r fath yn rhan o fywydau pawb. Dyma lun fy nhad a’m mam adeg eu priodas. Bu farw fy mam dros bum mlynedd ar hugain yn ôl a’m tad dros bymtheg mlynedd yn ôl. Ac eto pan dwi’n edrych ar y llun hwn mae’r ddau yn fyw. Dwi wedi edrych arno droeon ers imi gael ei fenthyg gan fy mrawd i’w sganio, a bod tro dwi’n edrych arno mae dagrau yn dod i’m llygaid. Dwi ddim yn boichen, ond mae ‘na ddagrau.

Un o’r rhesymau am y dagrau yw fy mod yn edrych ar wynebau dau oedd yn annwyl iawn imi, er ein bod ni wedi cael ein rhan o ddadlau ac anghydweld. Dyma ddau a weithiodd yn galed er mwyn rhoi i mi’r manteision na chafodd yr un ohonyn nhw. Gadawodd y ddau yr ysgol gynradd yn bedair ar ddeg mlwydd oed er mwyn mynd yn weithio ar fferm – gwaith caled, caled iawn. Roedd y ddau wedi bod yn yr un ysgol ac wedyn pan aeth y ddau i weithio ar yr un fferm roedd hi’n anorfod eu bod yn priodi â’i gilydd, mae’n debyg. Dwi’n meddwl bod y ddau yn edrych ychydig fel Eidalwyr yn y llun hwyn – fy nhad yn ei siwt streips, a fy mam yn ei ffrog briodas sidan. Yr unig beth sy’n dweud nad Eidalwyr ydyn nhw yw’r pedolau lwcus mae fy mam yn eu dal. Roedd y ffrog yn y cwpwrdd dillad yn tŷ pan oeddwn i yn blentyn ac roeddwn yn dwlu edrych arni a’u byseddu. Roeddwn yn rhyfeddu hefyd at y mwclis o berlau am ei gwddf a welwn ar ei bwrdd gwisgo. Dim rhyfedd fod dagrau hiraeth yn dod i’m llygaid.

Daw’r dagrau i’m llygaid hefyd wrth edrych ar y llun hwn oherwydd fy mod yn gweld dau berson na wnes i byth mo’u hadnabod yn iawn. Er taw nhw yw fy rhieni dwi weithiau yn teimlo fy mod yn edrych ar wyneb dieithriaid yn y llun hwn. Dwi’n teimlo na wnes i byth edrych ar eu hwynebau yn iawn pan oedden nhw’n fyw. Wnes i byth edrych arnyn nhw fel dwi wedi astudio eu hwynebau wedyn. Byddaf yn edrych yn fanwl er mwyn ceisio deall pwy oedden nhw a sut bobol oedden nhw mewn gwirionedd. Byddaf yn troi at y ffotograff hwn dro ar ôl tro er mwyn ceisio eu hadnabod yn well. Ond mae pob adnabyddiaeth bellach yn ddychymyg. Fel mae ffotograff wedi rhewi amser, mae amser wedi rhewi fy adnabyddiaeth ohonyn nhw. Ac mae hynny’n yn dod â dagrau i’m llygaid.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>