Beth yw dy farn di am Lyfr y flwyddyn 2007?

O’r diwedd mae Blog Dogfael wedi mynd yn rhyngweithiol mewn ffordd hawdd. Holl bwynt blogio oedd caniatáu i ddarllenwyr ymateb i beth oedd gan y blogiwr i’w ddweud trwy adael eu sylwadau ac yna derbyn ymatebion yn eu tro. Ond nawr dwi am fesur y farn honno trwy ddatblygu ‘pleidleisio’ ar-lein ar Flog Dogfael.

robinchapmangwenpritchardjonesllwydowen

Gan fy mod yn gwybod bod darllenwyr y blog hwn yn bobol sydd â diddordeb yn y pethau dwi wedi dewis fel testun y bleidlais gyntaf pwy ych chi’n credu ddylai ennil gwobr Llyfr y flwyddyn 2007. Yng Ngŵyl y Gelli, neu The Guardian Hay Festival, ddechrau’r wythnos fe gyhoeddwyd enwau’r tri llyfr ar y rhester fer. Os nad oeddech chi yn dilyn yr hanes, dyma nhw unwaith eto, gyda chyswllt i gofnod Gwales rhag ofn nad ydych chi wedi cael cyfle i’w darllen ac am benderfynu sut i bleidleisio ar sail disgrifiad o’r llyfr a’r clawr. Fyddai hynny ddim yn rhyfygus gan taw dyna sut mae’r rhan fwyaf o bobol yn prynu llyfrau mewn siopau ‘ta beth. Os nad ydy hynny’n ddigon gallwch glywed darnau o’r llyfrau yn cael eu darllen ar wefan BBC Cymru. Y tri llyfr yw:

Mae pleidleisio’n hawdd, a does dim cyfyngu ar eich pleidleisio. Hynnny yw, os ydych chi wedi mopio’ch pen cymiant gyda Dygwyl eneidiau gallwch bleidleisio mil o weithiau drosto os dyna yw eich ‘peth’ chi. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd i benderfynu yna fe allwch bleidleisio dros ddau neu dri llyfr, ond ateb hawdd yw hynny yn y pendraw! Bydd y pleidleisio ar agor am wythnos, felly ewch ati. Ar ddiwedd yr wythnos fe wnawn ni gadw cofnod o’r pleidleisio er mwyn gweld a yw darllenwyr Blog Dogfael yn cytuno gyda’r beirniaid pan gyhoeddir yr enillydd mewn seremoni llaw glits yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 9 Gorffennaf.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>