O’r diwedd mae blog Vaughan Roderick wedi’i ail enwi yn swyddogol yn Blog Vaughan Roderick – llongyfarchiadau iddo ar gael blog wedi’i enwi ar ei ôl! Er ei fod ar ei wyliau mae ganddo amser i flogio; mae’n rhaid ei fod yn cael y peth yr un mor gaethiwus â chyffur. Heddiw mae wedi dod o hyd i sylwadau diflas o ddisgwyliadwy gan y cyn-aelod seneddol Torïaidd Matthew Parris yn y Times sy’n cwyno am y defnydd o’r Gymraeg yng ngorsaf Casnewydd. Mae’n anodd credu fod rhywun sydd yn cael ei ystyried yn unigolyn hynaws yn medru coleddu’r fath syniadau.
Mae gwefan newyddion y Canadian Broadcasting Corporation yn adrodd hanes un gŵr ifanc anglophone o Montréal wnaeth ddefnyddio youtube.com i roi llafar i’w farn am siaradwyr Ffrangeg Québec. Dwi’n falch o ddweud nad ydyn nhw’n fodlon derbyn trasio ar eu hiaith a’u diwylliant mewn ffordd mor ddiymadferth â ninnau, ac nad ydyn nhw’n gorfod gwneud hynny chwaith.
A 23-year-old Montreal man has been charged with uttering threats and inciting hatred after police discovered a YouTube video full of anti-francophone messages.
Ryan Smale, a Lasalle resident, was released on bail pending trial after his arrest on May 18.
Police said they received a tip about the video, which featured a picture of a swastika decorated with Quebec’s official flower, the fleur-de-lis.
A man’s voice is heard on the video complaining that he can’t find a job because he doesn’t speak French.
The man allegedly says he’s not sure whether he’ll find a job first or a gun.
The video is no longer available online.
Investigators seized three computers and a prohibited weapon from the suspect’s house in Montreal’s west end, said police spokesman Raphael Bergeron.
Dwi jyst yn gobeithio nad oes ‘prohibited weapon’ gan Matthew Parris o gwmpas eu berson.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








[...] fod wedi methu ei gyswllt am fod gormod o ‘clutter’. Ac ateb perffaith yn ôl gan Huw Waters ar flog Dogfael… Ateb digon hawdd i hwn dwi’n meddwl: peidio defnyddio’r [...]
Yn ôl y fo, yr oedd hi’n pethau’n ‘clutteres’ ac yn cymyd gormod o amser gyda pethau yn y Gymraeg yn gyntaf, wedyn Saesneg.
Ateb digon hawdd i hwn dwi’n meddwl: peidio defnyddio’r Saesneg.