Gorffen cyfri yn etholiadau Iwerddon

Daeth y cyfri i ben yn hwyr neithiwr yn etholiadau Iwerddon. Ar ddiwedd y broses roedd hi’n amlwg fod prif blaid y llywodraeth, Fianna Fáil, wedi gwneud yn dda iawn, ac wedi ennill i’r graddau y mae’n bosib ichi ennill mewn sustem gyfrannol (er eu bod wedi colli seddau). Fe wnaeth y brif wrthblaid, Fine Gael, adfer ei sefyllfa o’r trychineb a brofwyd yn yr etholiad diwethaf. Cadwodd Llafur eu seddau hefyd, ond heb wneud dim cynnydd. Yr rhai wnaeth ddioddef oedd y pleidiau llai – yn eu plith plaid fechan y Progressive Democrats, aelodau o’r glymblaid lywodraethol a gollodd 6 o’i 8 aelod. Cadwodd y Blaid Werdd at 6 aelod, ond fe gollodd Sinn Féin aelodau i’w gadael ar 4 aelod, a hynny ar ôl disgwyl gwell perfformiad o gofio’u llwyddiant yn etholiadau Cynulliad gogledd Iwerddon. Cadwodd rhai o’r ymgeiswyr di-blaid eu seddau ac mae’n debyg y bydd yn rhaid i Fianna Fáil a’r PDs droi at rai ohonynt hwy am y ddwy neu dair pleidlais ychwanegol fydd eu hangen arnynt i fod â mwyafrif i lywodraethu. Mae’n debyg y bydd negodi hynny’n cymryd amser ac yn costio.

Os oes diddordeb gyda chi yn yr hyn sy’n digwydd yn Iwerddon yna mae gwefan newyddion RTE yn ffynhonnell dda iawn.

Mae gwefan Elections Ireland yn berffaith ar gyfer yr anorac.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>