Etholiadau Iwerddon unwaith eto

RTE Radio1Dwi’n credu fod ‘na rhywbeth sy’n sylfaenol waraidd am ddull Iwerddon o bleidleisio, ond mae hynny’n wir am eu dull o gyfri’r pleidleisiau hefyd. Nid rhywbeth sy’n digwydd liw nos fel gweithred gywilyddus o ffiaidd i’w cuddio rhag llygaid pobol boleit yw cyfri’r pleidleisiau yno, ond dathliad o ddemocratiaeth, cymuned a chenedligrwydd. Caiff democratiaeth ei dathlu wrth i deledu a radio ddarlledu’r canlyniadau’n gyson trwy’r dydd a’r nos; caiff cymuned ei dathlu wrth i sylwebyddion ac ymgeiswyr fel ei gilydd ddangos cystal y maent yn adnabod ei gilydd a’u hetholaethau, pwy sy’n dod o ble ac felly mewn sefyllfa i godi pleidleisiau plaid arall oherwydd y cysylltiad daearyddol. Ond yn fwy ‘na dim mae’n ddathliad o’u cenedligrwydd i’r Gwyddelod oherwydd mae eu dull nhw o ethol llywodraeth gwladwriaeth yn rhywbeth sydd ond yn digwydd yn Iwerddon a Malta. Ceisiodd Fianna Fáil newid y sustem trwy refferendwm ar ddau achlysur, ond mae pobol Iwerddon yn dwlu arni. Maen nhw hefyd yn hoff iawn o’r broses ei hun; roedd ‘na bwysedd i droi’r sustem yn un electronig ond fe wrthodwyd hynny. Y rheswm pennaf oedd diffyg llwybr awdit ar bapur, ond roedd y ffaith y byddai’r broses gyfrif drosodd mewn rhyw dri chwarter awr yn bwysig hefyd. Doedd pobol ddim am weld hynny’n digwydd. Ond roedden nhw hefyd wedi cael sioc o weld aelod o’r Dáil am flynyddoedd yn colli mewn etholaeth lle’r oedd peilot ar bleidleisio electronig. Yn etholaeth An Iarmhi (Westmeath) fe gollodd Mary O’Rourke ar ôl bod yn aelod am flynyddoedd. Fel arfer byddai’r cyfri wedi parhau am o leiaf 15 awr ac yn gyfle i ymgeisydd ddod i delerau gyda’r newyddion drwg. Ond oherwydd pleidleisio electronig fe gafodd wybod mewn tri chwarter awr. Roedd ‘na deimlad cyffredin na ddylai gwleidydd hyd yn oed orfod colli mor ddiseremoni. Felly er bod y llywodraeth wedi gwario €52 miliwn ar y peiriannau oedd i’w defnyddio’r tro hwn, nid oes unrhyw un o’r peiriannau’n cael eu defnyddio. Yn hytrach mae’r llywodraeth yn agos bron i €1 miliwn y flwyddyn yn eu storio! Dwi’n mwynhau yr etholiad hwn yn fawr iawn ac wedi bod yn gwrando ar raglen etholiadol Radio 1 Iwerddon trwy’r nos.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>