Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha i roedd y peth yn drist. Mae’n rhaid bod y newyddiadurwr yn gwybod beth sy’n digwydd mewn seneddau lle nad oes sustem etholiadol wyrdroëdig sy’n rhoi’r holl bŵer i blaid sydd prin yn ennill dros 35% o’r bleidlais boblogaidd, fel y digwyddodd i Lafur Newydd yn 2005. Ond mae’n rhaid bod pwysau arno i adrodd beth y buasai ei gynulleidfa (Lloegeraidd Llundeinig) am ei glywed, mae pleidleisio cyfrannol yn estron i’r ysbryd ci-tarw Prydeinig Siôn Tarw, a dim ond Eidalwyr animeiddiedig a Gwyddelod twp sy’n treulio amser yn negodi pwy sy’n mynd i ffurfio llywodraeth. “Rydyn ni yn y Deyrnas Gyfunol yn gwneud pethau’n iawn. Rydyn ni wedi credu sustem sydd yn golygu nad ydyn ni’n gorfod cael yr holl drafodaethau diflas di-fudd yma!”
Ond ble mae’r drwg yn y caws? Dwi’n ofni nad oes raid inni edrych dim pellach na’r Lib Dems mewn gwirionedd. Mae rhywbeth wedi digwydd iddyn nhw. Nid oes un ffordd o ddeall eu penderfyniad i beidio â chynnig mynd i glymblaid gyda Llafur na Phlaid Cymru fel dymuniad i beidio â bod yn blaid wleidyddol go iawn. Mae eu technegau ymgyrchu gor-leol wedi rhoi iddyn nhw’r meddylfryd community-action group fel nad ydyn nhw’n medru meddwl yn genedlaethol bellach. Yn anffodus wrth wneud hynny maen nhw wedi lled-lurgunio pleidiau eraill. Ond beth maen nhw’n mynd i’w wneud nesaf? Cael gwared â Mike German, siŵr o fod. Efallai bydd ‘na demtasiwn i gael gwared ar Lembit Opik hefyd. Wedyn beth?
Dim rhyfedd bob Ieuan Wyn Jones mor hallt ei feirniadaeth yn y Western mail heddiw:
“The people of Wales deserve to have a stable government. Plaid Cymru offered that option. The Liberal Democrats have turned their backs on their duty to the people of Wales and have shown absolute contempt for the electorate. It was as a result of their decision to suspend talks with Labour that Plaid was required to offer an alternative government. The Lib-Dems have shown that they are unable to take serious decisions and are undeserving of government.”
Dwi’n credu fod hynny’n asesiad teg o’r hyn y maen nhw wedi’i wneud, ac er mor anodd fyddai clymblaid enfys wedi bod yn ymarferol ac yn syniadol, dwi’n credu fod y ffaith fod Plaid Cymru a’r Torïaid wedi ystyried hynny yn gam mawr ymlaen tuag at wneud gwleidyddiaeth o fath arall yng Nghymru, gwleidyddiaeth o fewn i sustem o bleidleisio lled-gyfrannol, lle mae’n rhaid i bleidiau gyd-weithio ar raglenni gwaith penodol ac eto aros yn ddwy blaid ar wahân yn syniadol. Mae’r ffaith fod hyd yn oed y Blaid Lafur wedi’i gorfodi i weld hynny (mewn rhyw fodd neu’i gilydd) yn hanner cam ymlaen – er eu bod yn para yn eu traha arferol taw dim ond y Blaid Lafur sydd â’r hawl foesol i lywodraethu Cymru. Ond pwy sydd ddim yn fodlon chwarae’r gêm, y cyfranolwyr eu hunain! Er iddynt grefu a chlochdar am flynyddoedd a blynyddoedd am greu sustem bleidleisio gyfrannol, maent nawr yn troi eu cefnau ar ganlyniad anorfod sustem o’r fath, sef clymbleidio. Maen nhw ar goll yn y niwl yn fwy na’r un o’r pleidiau eraill mae’n ymddangos.
Gobeithio nad ydwyf wedi rhoi unrhyw awgrym fy mod yn siomedig ac yn grac ar ddiwedd yr holl broses. Dwi yn grac ac yn siomedig ond dwi ddim am i neb arall wybod achos byddai hynny’n edrych yn rhy debyg i rawnwin surion, a does dim gwaeth mewn gwleidyddiaeth na bywyd go iawn na grawnwin surion.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael