Mae heddiw wedi bod yn etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Etholiadau’r weriniaeth yw un o uchafbwyntiau yr anorac sustemau pleidleisio, oherwydd maen nhw’n defnyddio y peth agosaf at sustem berffaith o gyfranoldeb, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy (single transferrable vote, neu STC) a hynny mewn etholaethau aml-aelod. Cyhoeddodd yr Electoral Reform Society (ERS) lyfryn yn 1973 gan Frank S Britton, How to conduct an election by the single transferrable vote. Mae’n wych o beth fod y ERS wedi gosod copi o’r llyfryn ar eu gwefan ac mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Felly os ydych chi am gynnal etholiad yn dilyn egwyddor y bleidlais sengl drosglwyddadwy yr unig beth sydd yn rhaid ichi ei wneud yw darllen y llyfryn hwn. Oherwydd yr amser y mae’n cymryd i gyfri pleidleisiau o dan y sustem fe fydd hi’n ddydd Sadwrn o leiaf cyn inni wybod yr holl ganlyniadau. Pob hwyl gyda’r darllen. Ceir llawer o wybodaeth am yr etholiad ar wefan darlledwr cyhoeddus Iwerddon, RTÉ, a bydd hi’n bosib dilyny canlyniadau yno yfory. Bydd y canlyniadau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan wych Elections Ireland sydd hefyd yn rhoi’r canlyniadau ar gyfer pob etholiad Gwyddelig ers 1918. Mae oriau difyr hefyd i’w treulio ar wefan mycandidate.ie. Taswn i’n pleidleisio y Blaid Werdd fyddai’n cael fy mhleidlais o dan ei harweinydd Trevor Sargent.
Darllediad etholiadol y Blaid Werdd mewn Gwyddeleg.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael