Gyda phwyllgor cenedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad ydyn nhw am drafod mynd i glymblaid gyda neb i ffurfio Llywodraeth Cymru mae’n rhaid gofyn beth sy’n digwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol? Ydyn nhw wedi penderfynu nad ydyn nhw am fod yn blaid wleidyddol bellach ac am droi yn grŵp pwysau sy’n derbyn nawdd cyhoeddus ac heb unrhyw ddiddordeb mewn bod yn rhan o lywodraeth. Roeddwn i wedi teimlo taw clefyd a oedd yn effeithio ar Blaid Cymru oedd hynny ond fe ges i fy mhrofi’n anghywir yn hynny o beth (ac nid am y tro cyntaf!).
Fe glywais i Alun Cairns (nid fy ffefryn) yn siarad ar Radio Cymru y bore ‘ma yn dweud efallai y gallai’r cytundeb rhwng y Ceidwadwyr ‘Cymreig’ a Phlaid Cymru fynd yn ei flaen ac na ddylen ni “reoli dim byd allan” ond doedd dim llawer o argyhoeddiad yn ei awgrym y gallai hynny ddigwydd. Fe ddyfynnwyd Ieuan Wyn Jones yn llym iawn ei feirniadaeth o’r Democratiaid Rhyddfrydol – os yw hynny’n arwydd o sut bydd Plaid Cymru yn ymddwyn fel gwrthblaid yna mae’n bosib y gallai hynny weithio. Un o’r rhesymau wnes i gefnogi’r holl syniad o glymblaid enfys oedd eu bod wedi methu bod yn wrthblaid effeithiol dros y blynyddoedd a byddai cyfnod mewn llywodraeth yn gwneud lles iddyn nhw. Ond nawr mae hynny ar ben i bob pwrpas; Rhodri Morgan fydd yn brif weinidog wedi’r cwbl yn ôl y sylwebyddion dwi wedi’u clywed.
Dwi ddim yn credu bod hynny’n newyddion da oni bai bod pethau’n newid yn nhymor newydd y blaid mewn llywodraeth, ond dwi’n ofni taw neges sylfaenol llywodraeth Lafur arall yw nad yw pethau’n newid. Mae Cymru yn aros fel yr oedd yn gysurus gysglyd a digyffro o dan reolaeth y blaid sy’n gwybod beth sy orau i ni. Mae’r ffaith fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu hynny yn fy synnu. Mae’r ffaith fod rhai o aelodau cynulliad Plaid Cymru yn cytuno gyda hynny hefyd yn fy siomi.
A beth mae Mike German yn mynd i’w wneud nesaf?

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael